Cwrs Ymwybyddiaeth o Iaith Arwyddion Prydain
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Busnes@LlandrilloMenai Llwyn Brain, Parc Menai, Safle cyflogwr
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 awr
Cwrs Ymwybyddiaeth o Iaith Arwyddion PrydainOedolion a Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ydy’r iaith weledol a ddefnyddir gan y gymuned Fyddar yn y DU. Mae ganddo ei ramadeg a’i gystrawen ei hun, sy’n wahanol i Saesneg llafar, ac mae’n dibynnu ar fynegiant wyneb, siapiau dwylo a symudiadau’r corff i gyfleu ystyr. Nid set o arwyddion yn unig ydyw, ond iaith gyfoethog, gyflawn sy’n galluogi cyfathrebu, yn meithrin cymuned, ac yn hyrwyddo hygyrchedd i unigolion Byddar. Mae’n sgil hanfodol ar gyfer datblygu amgylcheddau cynhwysol, yn y gweithle a thu hwnt.
Beth mae’r cwrs tair awr o hyd yn ei drafod:
- Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain Deall hanfodion Iaith Arwyddion Prydain a’r gymuned Fyddar.
- Arwyddion Allweddol: Dysgwch arwyddion hanfodol ar gyfer cyfathrebu, yn cynnwys rhyngweithio â chwsmeriaid, a chydweithio gyda’ch tîm.
- Sensitifrwydd Diwylliannol: Cyfle i ddysgu am ddiwylliant y Byddar, gan sicrhau cyfathrebu parchus a chynhwysol.
- Ymarferion ymarferol: Gweithgareddau ymarferol i ymarfer ac atgyfnerthu sgiliau newydd mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol
Gofynion mynediad
Dim.
Cyflwyniad
Gweithdy rhyngweithiol dan arweiniad tiwtor.
Asesiad
Nid oes asesu ffurfiol.
Dilyniant
Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Astudiaethau Byddar ac Iaith Arwyddion
Astudiaethau Byddar ac Iaith Arwyddion