Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lefel AS/A Seicoleg (Rhan-amser)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Cofrestrwch
×

Lefel AS/A Seicoleg (Rhan-amser)

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddysgu rhagor am sut a pham bod pobl ac anifeiliaid yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn? Ar y cwrs, cewch gyflwyniad i Seicoleg a fydd yn baratoad gwerthfawr ar gyfer Addysg Uwch. Bydd y wybodaeth a gewch hefyd yn ddefnyddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn sawl maes, yn cynnwys addysg, iechyd, busnes, manwerthu a sectorau eraill.

Diffiniad o Seicoleg yw astudiaeth wyddonol o'r meddwl ac o ymddygiad. Bydd seicolegwyr yn defnyddio amryw o ddulliau arbrofol ac anarbrofol, a chi (yr unigolyn unigryw) yw testun eu hastudiaeth. Ar y cwrs, cewch gip ar y ddisgyblaeth gyffrous hon, yn ogystal â meithrin sgiliau meddwl yn feirniadol, sgiliau llythrennedd, sgiliau rhifedd a sgiliau eraill. Nid oes gofyn i chi gael gwybodaeth flaenorol o seicoleg, ond byddai hynny'n fantais.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd B mewn pwnc Gwyddonol. TGAU gradd B mewn Mathemateg neu Rifedd a TGAU gradd B mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtorial
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)

Asesiad

Cewch eich asesu fel a ganlyn:

  • Dau arholiad allanol y flwyddyn, ym mis Mehefin
  • Gwaith cartref rheolaidd, prosiectau ymchwil ymarferol ac arholiadau ffug
  • Nid oes gwaith cwrs a asesir yn allanol.

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau.

Os dewiswch barhau i astudio Seicoleg, gallech wneud cais i ddilyn cwrs gradd yn y pwnc. Bydd y sgiliau a ddysgwch ar y cwrs hefyd yn ddefnyddiol os byddwch am weithio ym maes personl, newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwydiannau eraill.

Gallech hefyd ystyried dilyn cwrs Addysg Uwch mewn pynciau perthnasol, fel cwrs hyfforddiant athro neu gwrs meddygaeth, nyrsio, gofal iechyd, gwaith cymdeithasol neu gwnsela. Mae cyrsiau addas yn rhai or meysydd hyn ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.

Gwybodaeth campws Bangor

Seicoleg yw'r astudiaeth o ymddygiad. Mae dulliau ymchwil a sut mae seicolegwyr yn casglu eu data yn rhan integrol o'r cwrs. Ymdrinnir gydag ymddygiad dynol mewn perthynas gyda dylanwad cymdeithasol, cof, gwybyddiaeth a gwahaniaethau unigol yn y flwyddyn gyntaf gyda seicoleg fforensig gwybyddiaeth a'r gyfraith ac agweddau o ddatblygiad plentyndod yn cael eu hastudio yn A2.

Gwybodaeth uned

Blwyddyn 1 (AS)

PSYB1 - Cyflwyno Seicoleg

Mae'r modiwl hwn yn cael ei rannu yn dair adran orfodol:

Dulliau Allweddol - Edrych ar y prif bersbectifau seicolegol gan gynnwys cyfraniadau ymddygiadol a gwybyddol a bioseicoleg sy'n canolbwyntio ar seicoleg ffisiolegol a sail enetig ymddygiad.

Datblygiad Rhyw – Yma byddwn yn astudio cysyniadau o ryw, esboniadau am y datblygiad o hunaniaeth rhyw megis esboniadau biolegol a chymdeithasol.

Dulliau Ymchwil – Bydd gwahanol fathau o ddulliau ymchwil yn cael eu hastudio gan gynnwys dulliau ansoddol a meintiol a chryfder a gwendidau dulliau arbrofol a heb fod yn arbrofol.

PSYB2 – Seicoleg Gymdeithasol. Seicoleg Wybyddol, Gwahaniaethau Unigol

Rhennir y modiwl hwn yn dair adran:

Seicoleg Gymdeithasol

  • Dylanwad Cymdeithasol
  • Hyrwyddiad cymdeithasol ac effaith presenoldeb eraill ar berfformiad tasg
  • Beth yw cydymffurfiad?
  • Pam fod rhai unigolion a chymdeithasau yn cydymffurfio tra bod eraill yn parhau yn ymreolaethol?
  • Beth yw ufudd-dod a phwy sy'n ufuddhau?
  • Beth yw goblygiadau ufudd-dod mewn bywyd go iawn?
  • Materion moesegol a methodolegol.

Seicoleg Wybyddol – yn yr uned hon byddwch yn astudio'r Cof ac anghofio drwy edrych ar gydrannau nifer o fodelau gan gynnwys y model aml-stôr o gof a'r gwahanol esboniadau dros anghofio, gan gynnwys pydredd ac ataliad.

Gwahaniaethau Unigol – Yn yr uned hon byddwch yn astudio, esbonio, a gwerthuso triniaethau ar gyfer ffobiâu ac anhwylderau gorfodaeth obsesiynol

Blwyddyn 2 (A2)

PSYB3-Datblygiad Plentyn ac Opsiynau:

Rhennir y modiwl hwn yn dair adran:

Datblygiad y Plentyn - Bydd hyn yn cynnwys astudio gwaith Piaget, Vygotsky, a Bruner.

Gwybyddiaeth a'r Gyfraith – Yma bydd myfyrwyr yn astudio effaith gwybyddiaeth ar y gyfraith gan gynnwys technegau adnabod wyneb, dadlau dibynadwyedd tystiolaeth tyst llygad, a'r ddadl Cof Ffug.

Seicoleg Fforensig – Bydd myfyrwyr yn edrych ar ddiffiniadau o drosedd a damcaniaethau ymddygiad troseddol a thriniaethau therapïau cyfredol.

PSYB4 - Bydd Ymagwedd, Dadleuon a Dulliau mewn Seicoleg yn cynnwys meysydd megis ewyllys rhydd a lleihadaeth a phersbectifau dyneiddiol, biolegol, ymddygiadol, gwybyddol a seico ddadansoddol. Byddwch yn astudio dulliau ymchwil gan gynnwys ystadegau casgliadol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau

Lefel AS/A