Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Cyfrifyddiaeth Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor (Campws Newydd), Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser: 1 diwrnod yr wythnos

    Medi i Gorff

Cofrestru
×

Prentisiaeth - Cyfrifyddiaeth Lefel 3

Prentisiaethau

I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.

Ffurflen ymholi am brentisiaeth

Disgrifiad o'r Cwrs

Datblygwyd y fframwaith hwn mewn partneriaeth gyda chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant. Mae'n ffordd strwythuredig o hyfforddi a datblygu darpar gyfrifyddion sydd yn deall anghenion y sefydliad, ei gwsmeriaid a'r sector y maent yn gweithredu o'i fewn.

Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfrifeg:
Bydd y Prentis yn astudio tuag at Ddiploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT).

Pwrpas y cymhwyster hwn yw sicrhau bod dysgwyr yn barod i ddilyn gyrfa ym maes busnes, cyllid neu gyfrifyddu proffesiynol neu fynd ymlaen i addysg bellach.

Bydd dysgwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau a fydd eu hangen arnynt wrth ymdrin â phrosesau ariannol, yn cynnwys egwyddorion a chysyniadau cyfrifyddu, cadw cyfrifon uwch a pharatoi datganiadau ariannol.

Byddant hefyd yn dod i ddeall yr amgylchedd busnes, y dechnoleg a ddefnyddir ym maes cyllid a chyfrifyddu, materion busnes o ran rhestrau cyflogau a threth ar werth (TAW) (mae'n bosib y defnyddir term gwahanol mewn gweledydd eraill), problemau ym maes busnes, technegau cyfrifyddu rheoli, egwyddorion moesegol ac ystyriaethau cynaliadwyedd.

Bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth am fyd busnes o ran ei strwythur a'i bwrpas yn ogystal â gwerthfawrogi'r amgylchedd busnes ehangach. Byddant hefyd yn datblygu sgiliau i gefnogi prosesau ariannol cymhleth, megis cyfrifon terfynol, adroddiadau ac adenillion, defnyddio technoleg i ddarparu gwybodaeth cyfrifyddu rheoli a llenwi ffurflenni TAW.

Disgwylir i'r dysgwyr fod yn gyfrifol am lunio a chwblhau tasgau a gweithdrefnau, yn ogystal â defnyddio eu hymreolaeth a'u barn o fewn ffiniau cyfyngedig, megis ymwybyddiaeth o safbwyntiau neu ddulliau gwahanol o fewn maes astudio neu waith penodol.

Bydd gofyn iddynt ddefnyddio amrywiaeth o ddata a gwybodaeth am fusnes i ystyried a rhannu gwybodaeth allweddol i allu gwneud penderfyniadau busnes. Yn ogystal, cyflwynir themâu allweddol drwy gydol y gyfres o gymwysterau ym maes cyfrifyddu, yn cynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu.

Caiff y pedair uned eu hasesu'n unigol drwy gyfrwng asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys pedair uned orfodol.

  • Ymwybyddiaeth o fusnes
  • Cyfrifyddu Ariannol : Paratoi Datganiadau Ariannol
  • Technegau Cyfrifyddu ym maes Rheoli
  • Prosesau Treth i Fusnesau


Am fwy o wybodaeth e-bostiwch aat@gllm.ac.uk

Gofynion mynediad

  • Wedi cyflawni Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cyfrifyddu yn ddiweddar
  • TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu brofiad gwaith perthnasol
  • Yn ddelfrydol, dylech fod yn gweithio mewn swydd ym maes cyfrifyddu.
  • Mae gofyn i bob dysgwr gofrestru gyda'r corff proffesiynol i dechnegwyr cyfrifyddu.
  • Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Mae'r hyfforddiant technegol yn cael ei ddarparu yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos.

Asesiad

Arholiadau wedi'u gosod a'u marcio'n allanol.

Dilyniant

Bydd y sgiliau cyfrifyddu a ddatblygir wrth astudio'r cymhwyster hwn yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i'r cwrs Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifyddu Proffesiynol ac fe allai arwain at yrfa well.

Gwybodaeth campws Bangor (Campws Newydd)

Dydd Mercher - Yn y dosbarth 9am - 4.30pm

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Dydd Mercher - Yn y dosbarth 9am - 4.30pm

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn gwrando yn y dosbarth