Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

ACCA - Arweinydd Busnes Strategol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod yr wythnos am 10 wythnos.

Cofrestru
×

ACCA - Arweinydd Busnes Strategol

Oedolion a Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae SBL yn adlewyrchu'r gweithle ac yn rhoi heriau byd go iawn i chi sy'n eich galluogi i ddangos cyfuniad o sgiliau technegol, ymarferol a phroffesiynol. Gweithiwch drwy'r modiwl Moeseg a Sgiliau Proffesiynol naill ai cyn i chi ddechrau, neu ochr yn ochr â'ch astudiaethau. Mae hyn yn rhoi cipolwg i chi ar sgiliau proffesiynol y gallwch eu defnyddio yn eich arholiad ac yn y gweithle.

Gofynion mynediad

Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster cyfrifydda at Lefel 4 e.e. Technegydd AAT, neu radd berthnasol. Dylech fod yn gweithio yn y sector cyfrifyddiaeth, gan fod y cymhwyster yn gofyn am wybodaeth ymarferol a chymhwysiad.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Caiff cyrsiau ACCA eu darparu ar-lein

Mae pob modiwl yn cynnwys rhwng 60 ac 80 awr o sesiynau cynefino, tiwtorialau, weminarau a sesiynau adolygu.

Y tu allan i'r gwersi mae cefnogaeth ar gael drwy gyfarfodydd ar-lein, e-bost a thros y ffôn.

Asesiad

Ym mhob modiwl byddwch yn sefyll un arholiad, fydd yn cael ei gynnal yn ystod cyfnodau arholiadau ACCA sef ym mis Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr. Cynghorir ymgeiswyr i wirio dyddiadau'r cyfnodau arholiadau hyn ar wefan ACCA. Bydd yr union ddyddiadau'n cael eu cadarnhau gan y coleg ar ddechrau pob modiwl.

Dilyniant

Mae'r cymhwyster proffesiynol hwn yn darparu cyfleoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau lle mae cyfrifydda a rheoli ariannol yn hanfodol i berfformiad y sefydliad. Bydd datblygiad proffesiynol pellach yn dibynnu ar eich gyrfa unigol a gofynion y sector yr ydych yn gweithio ynddi.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn gwrando yn y dosbarth