ACCA - Rheoli Perfformiad
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Ar-lein
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod yr wythnos am 10 wythnos.
ACCA - Rheoli PerfformiadOedolion a Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau wrth gymhwyso technegau cyfrifyddu rheoli i wybodaeth feintiol ac ansoddol ar gyfer cynllunio, gwneud penderfyniadau, gwerthuso perfformiad a rheoli.
Gofynion mynediad
Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster cyfrifydda at Lefel 4 e.e. Technegydd AAT, neu radd berthnasol. Dylech fod yn gweithio yn y sector cyfrifyddiaeth, gan fod y cymhwyster yn gofyn am wybodaeth ymarferol a chymhwysiad.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Caiff cyrsiau ACCA eu darparu ar-lein
Mae pob modiwl yn cynnwys rhwng 60 ac 80 awr o sesiynau cynefino, tiwtorialau, weminarau a sesiynau adolygu.
Y tu allan i'r gwersi mae cefnogaeth ar gael drwy gyfarfodydd ar-lein, e-bost a thros y ffôn.
Asesiad
Ym mhob modiwl byddwch yn sefyll un arholiad, fydd yn cael ei gynnal yn ystod cyfnodau arholiadau ACCA sef ym mis Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr. Cynghorir ymgeiswyr i wirio dyddiadau'r cyfnodau arholiadau hyn ar wefan ACCA. Bydd yr union ddyddiadau'n cael eu cadarnhau gan y coleg ar ddechrau pob modiwl.
Dilyniant
Mae'r cymhwyster proffesiynol hwn yn darparu cyfleoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau lle mae cyfrifydda a rheoli ariannol yn hanfodol i berfformiad y sefydliad. Bydd datblygiad proffesiynol pellach yn dibynnu ar eich gyrfa unigol a gofynion y sector yr ydych yn gweithio ynddi.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser
Lefel:
4-6
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli