Sgiliau Gwyrdd i Gyflogwyr
Mae'r prosiect yn mynd i'r afael â'r bwlch mewn sgiliau gwyrdd drwy wella sgiliau unigolion a busnesau ym maes datgarboneiddio, arbed ynni, a thechnolegau gwyrdd, gan hyrwyddo'r nod o gyrraedd y targedau sero net cenedlaethol erbyn 2050.
Mae'r prosiect yn mynd i'r afael â'r bwlch mewn sgiliau gwyrdd drwy wella sgiliau unigolion a busnesau ym maes datgarboneiddio, arbed ynni, a thechnolegau gwyrdd, gan hyrwyddo'r nod o gyrraedd y targedau sero net cenedlaethol erbyn 2050.
Bydd Prosiect Sgiliau Gwyrdd i Gyflogwyr y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhedeg o fis Medi i fis Mawrth 2026 ac yn cefnogi busnesau a gweithwyr yng Ngwynedd a Môn.
Mae'r prosiect yn galluogi Busnes@LlandrilloMenai i barhau i gynnig hyfforddiant arbenigol a ariennir yn llawn mewn meysydd sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd, fel ôl-osod, ynni adnewyddadwy a gwres o'r aer ac o'r ddaear.
Bydd yr hyfforddiant yn cefnogi cwmnïau bach a chanolig trwy eu galluogi i ddatblygu ac ehangu eu gwasanaethau er mwyn dod yn rhan o'r cadwyni cyflenwi sy'n cefnogi'r gwaith o leihau carbon mewn tai ac yn y diwydiant adeiladu.
Yn ogystal â sgiliau gwyrdd, bydd y prosiect yn cyflwyno modiwlau hyfforddi byr sy'n canolbwyntio ar arweinyddiaeth, llesiant a chynaliadwyedd gyda'r nod o ddatblygu gweithlu deinamig ac ymatebol.
Cynhelir yr hyfforddiant yng Nghanolfan CIST Llangefni, Tŷ Gwyrddfai, Penygroes, a Llwyn Brain, Bangor, a bydd peth darpariaeth ar gael ar-lein hefyd. Y cyswllt e-bost ar gyfer y prosiect yw: busnes@gllm.ac.uk

Mae Prosiect EGNI wedi derbyn £429,287 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
