Datblygu Diwylliant Hyfforddi: Grymuso Timau er mwyn Tyfu

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod.

    ffi cwrs £110

Cofrestrwch
×

Datblygu Diwylliant Hyfforddi: Grymuso Timau er mwyn Tyfu

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae diwylliant hyfforddi yn fwy na dim ond cael sgyrsiau hyfforddi- mae'n ymwneud â meithrin meddylfryd o ddysgu, twf ac adborth parhaus ar draws y sefydliad. Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno technegau i arweinwyr a rheolwyr i greu amgylchedd lle mae hyfforddi'n dod yn arfer dyddiol, yn hytrach nag ymyrraeth achlysurol - a lle mae hyfforddi'n treiddio i fyny, i'r ochr, a thrwy berthnasoedd traddodiadol rhwng rheolwyr a thimau.

Pam Dilyn y Cwrs?

  • Deall sylfeini diwylliant hyfforddi

  • Datblygu meddylfryd ac ymddygiadau hyfforddi

  • Cyflwyno sgiliau hyfforddi craidd i arweinwyr a rheolwyr

  • Ymgorffori hyfforddiant i'r rhyngweithio dydd i ddydd rhwng timau

  • Creu cynllun gweithredu ymarferol i gynnal diwylliant hyfforddi

I bwy mae’n addas?

  • Arweinwyr a rheolwyr sydd eisiau ymgorffori hyfforddi yn eu harddull arwain a diwylliant y tîm

  • Gweithwyr proffesiynol AD ​​a thimau Dysgu a Datblygu sy'n arwain mentrau datblygu arweinyddiaeth a hyfforddiant

  • Gweithredwyr a pherchnogion busnes sydd eisiau meithrin llwyddiant mewn sefydliad â hyfforddiant yn greiddiol iddo.

  • Arweinwyr uchelgeisiol ac arweinwyr tîm sy'n ystyried mabwysiadu meddylfryd hyfforddi ar ddechrau eu taith arweinyddiaeth

Modelu ymddygiadau hyfforddi effeithiol, arwain trwy esiampl, ac ymrwymo i ddatblygiad personol a thîm parhaus.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr mewn llyfrgell