Cyflwyniad i'r Microgeneration Certification Scheme (MCS) a Chyrff Ardystio – Cwrs Ymwybyddiaeth
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:CIST-Llangefni, Ty Gwyrddfai
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
3.5 awr (hanner diwrnod)
Cyflwyniad i'r Microgeneration Certification Scheme (MCS) a Chyrff Ardystio – Cwrs Ymwybyddiaeth
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs ymwybyddiaeth hanner diwrnod hwn yn rhoi cyflwyniad clir a hygyrch i'r Microgeneration Certification Scheme (MCS) a rôl cyrff ardystio yn sector ynni adnewyddadwy a charbon isel y Deyrnas Unedig.
Wedi'i gynllunio ar gyfer gosodwyr, contractwyr a rheolwyr prosiect — yn enwedig y rhai sy'n gweithio ar gynlluniau fel y Cynllun Uwchraddio Boeleri (BUS), Gwarant Allforio Clyfar (SEG) neu ECO4 — mae'r cwrs yn egluro sut mae MCS yn sail i sicrhau ansawdd, diogelu defnyddwyr a chydymffurfio rheoleiddiol.
Bydd dysgwyr yn archwilio'r broses ardystio, y llwybrau ar gyfer technolegau penodol a sut mae MCS yn cysylltu â fframweithiau eraill fel TrustMark, safonau PAS a'r Cynlluniau Personau Cymwys (CPS).
P'un ai ydych chi'n paratoi ar gyfer ardystiad neu'n cefnogi prosiectau gosod, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall eich rôl wrth ddarparu systemau ynni adnewyddadwy diogel, dibynadwy sy'n cydymffurfio â'r gofynion.
Trosolwg o'r Agenda:
09:00 – 09:15 | Croeso a Chyflwyniadau
- Nodau a chyd-destun y cwrs
- Pwysigrwydd safonau ansawdd yn y newid i sero net
09:15 – 10:00 | Beth yw'r Microgeneration Certification Scheme (MCS)?
- Trosolwg o'r MCS
- Y technolegau dan sylw: Paneli solar, pympiau gwres, batris, ac ati
- MCS a diogelu defnyddwyr
10:00 – 10:30 | Safonau Ardystio MCS
- Cyflwyniad i safonau MIS (e.e. MIS 3005)
- Cymhwysedd, hyfforddiant a rhwymedigaethau gosodwyr
- Dogfennau ac arferion gorau wrth drosglwyddo systemau i'r cleient
10:30 – 10:45 | Egwyl
10:45 – 11:30 | Rôl y Cyrff Ardystio
- Cyrff ardystio achrededig gan UKAS
- Ennill ardystiad a'r broses archwilio
- Cymharu Cynlluniau Ardystio â Chynlluniau Personau Cymwys (CPS)
11:30 – 12:00 | Cydymffurfiaeth a Diogelu Defnyddwyr
- TrustMark, gwarantau a gweithdrefnau cwyno
- Cyfrifoldebau gosodwyr o dan gynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth
- Trafodaeth agored a sesiynau holi ac ateb
Deunyddiau sy'n rhan o'r cwrs:
- Pecyn sleidiau digidol (PDF)
- Crynodeb o safonau allweddol MCS
- Rhestr wirio ardystio gosodwyr
Dolenni defnyddiol i adnoddau MCS, TrustMark ac UKAS
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer:
- Gosodwyr a chontractwyr ym maes ynni adnewyddadwy
- Rheolwyr Prosiect a chydlynwyr cynlluniau carbon isel
- Ymgynghorwyr ynni a gweithwyr proffesiynol ôl-osod
- Gweithwyr proffesiynol sy'n dod i mewn i'r sector neu'n cefnogi ceisiadau am gyllid (BUS, SEG, ECO4)
Dylai cyfranogwyr fod â diddordeb mewn sicrhau ansawdd neu gydymffurfio o ran y maes ynni adnewyddadwy yn y Deyrnas Unedig
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs dros 3.5 awr (hanner diwrnod) ac mae'n cynnwys:
- Cyflwyniadau dan arweiniad tiwtor a thrafodaethau grŵp
- Sesiynau holi ac ateb a chyd-destun polisi
- Deunyddiau PDF a chanllawiau cyfeirio ar gyfer parhau i ddysgu
Asesiad
Nid oes asesu ffurfiol.
Anogir cyfranogi ac ymgysylltu gweithredol drwy gydol y cwrs.
Bydd dysgwyr yn derbyn Tystysgrif Presenoldeb ar ôl cwblhau'r cwrs.
Dilyniant
Mae'r cwrs hwn yn cynnig sylfaen gref ar gyfer:
- Paratoi ar gyfer Ardystiad gosodwr MCS
- Dilyniant i hyfforddiant gosod neu ddylunio technoleg benodol (e.e. Paneli Solar, Pympiau Gwres)
- Cyrsiau PAS 2030/2035 a chymwysterau a gydnabyddir gan TrustMark
Rolau cefnogol mewn rheoli prosiectau, cydymffurfiaeth neu sicrhau ansawdd yn achos cynlluniau a ariennir
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Arbenigol/Arall