Ffynnu Gyda'n Gilydd: Adeiladu Gwydnwch a Llesiant mewn Gweithle Cynhwysol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
  • Dull astudio:
    Rhan amser
Gwnewch gais
×

Ffynnu Gyda'n Gilydd: Adeiladu Gwydnwch a Llesiant mewn Gweithle Cynhwysol

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

⁠Pam dilyn y cwrs?

Mae'r sesiwn ddiddorol a rhyngweithiol hon yn archwilio'r cysylltiad hanfodol rhwng llesiant gweithwyr, gwydnwch, ac amrywiaeth yn y gweithle, gan ddefnyddio'r model 'Gofynion Swydd - Adnoddau' fel fframwaith sylfaenol.

Bydd cyfranogwyr yn dysgu am ddulliau ymarferol ar gyfer rheoli straen, meithrin gwydnwch, a gwella llesiant trwy gydbwyso gofynion eu swydd â'r adnoddau sydd ar gael yn effeithiol. Mae'r sesiwn hefyd yn tynnu sylw at sut mae cynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb yn dylanwadu ar iechyd meddwl ac emosiynol, a sut y gall sefydliadau greu amgylcheddau cefnogol sy'n grymuso pob gweithiwr ac yn eu galluogi i ffynnu.

Drwy ddeall y deinameg rhwng gofynion swyddi ac adnoddau, bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i feithrin diwylliant gweithle sy'n hybu ymgysylltiad, yn lleihau gorweithio, ac yn gyrru perfformiad - gan gyfrannu at weithlu iachach a mwy cynhyrchiol.

I bwy mae’n addas?

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer rheolwyr, arweinwyr tîm, gweithwyr ym maes Adnoddau Dynol⁠, a gweithwyr ar bob lefel sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo llesiant, gwydnwch a chynwysoldeb yn y gweithle. ⁠ ⁠ ⁠ ⁠ Y rhai a fyddai’n elwa fwyaf ydy:

  • Arweinwyr a rheolwyr sydd eisiau cynnig gwell cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol i'w timau ⁠
  • Gweithwyr ym maes Adnoddau Dynol ​​a maes Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant sy'n ceisio integreiddio strategaethau llesiant i ddiwylliant sefydliadol
  • Gweithwyr mewn swyddi neu ddiwydiannau lle mae llawer o bwysau, lle mae straen a gorweithio'n gyffredin ⁠
  • Unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall y cysylltiad rhwng amrywiaeth, cynhwysiant a gwydnwch yn y gweithle
  • Gweithwyr hybu newid sy'n gweithio i ddatblygu amgylchedd sy'n ddiogel yn seicolegol, yn gynhwysol ac yn perfformio'n dda ⁠
Mae'r cwrs hwn yn hynod o ddefnyddiol i sefydliadau sy'n anelu at gwella ymgysylltiad, lleihau gorweithio, a chreu diwylliant cynaliadwy a chefnogol sy'n galluogi pob unigolyn i ffynnu.

Cofrestrwch heddiw a chamu tuag at arwain gweithlu iachach a mwy cynhyrchiol!

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr mewn llyfrgell