Cynllun cymhorthdal ar gael i fusnesau Llandudno i'w helpu i dalu cyflogau dros y gaeaf

Mae'r cynllun 'Cadw er mwyn Arloesi' newydd yn cynnig cymhorthdal cyflog i helpu busnesau i gadw gweithwyr tymhorol neu i recriwtio gweithwyr yn gynnar i baratoi ar gyfer tymor yr haf 2022.

Mae'r cynllun yn rhan o 'Hwb Arloesi Llandudno ar gyfer Twristiaeth'. Mewn partneriaeth â Mostyn Estates, nod y prosiect hwn yw ysbrydoli, ysgogi a chreu arloesedd ym maes twristiaeth yn Llandudno. Mae Hwb Arloesi Llandudno ar gyfer Twristiaeth wedi derbyn £825,000 drwy Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU.

Yn rhan o’r cynllun, sydd ar gael i fusnesau yn Llandudno'n unig, bydd gofyn i'r busnes a'r gweithwyr sy'n derbyn y cymhorthdal gymryd rhan mewn prosiect arloesi byr a fydd yn cefnogi gweithgareddau'r busnes yn y dyfodol.

Yn ystod lansiad y cynllun newydd bydd Busnes@LlandrilloMenai yn cynnal sesiynau ar-lein i rannu gwybodaeth:

  • Dydd Mercher 9 Chwefror,10:30 to 11:30am

  • Dydd Mercher 16 Chwefror,10:30 to 11:30am

  • Dydd Mercher 23 Chwefror,10:30 to 11:30am

  • Dydd Mercher 2 Mawrth,10:30 to 11:30am

Cliciwch yma i archebu.

Bydd y sesiynau rhannu gwybodaeth yn esbonio'r broses ymgeisio a'r meini prawf cymhwysedd ac yn dweud pa ddogfennau fydd eu hangen arnoch i gefnogi eich cais.

Meddai'r Rheolwr Prosiectau Rhanbarthol, Gary Jones: "Mae cefnogi'r sector dwristiaeth yn Llandudno i arloesi'n rhan allweddol o'r prosiect. Nod 'Cadw er mwyn Arloesi' yw gwella rhagolygon cyflogaeth gweithwyr yn y sector a rhoi cyfle i fusnesau ganolbwyntio ar adnewyddu eu model busnes yn ystod y misoedd tawel."

I gael gwybod rhagor am gymhorthdal cyflog 'Cadw er mwyn Arloesi' ymunwch ag un o'r sesiynau gwybodaeth, neu i ddysgu rhagor am Hwb Arloesi Llandudno ar gyfer Twristiaeth, ewch i www.gllm.ac.uk/cy/busnes/projects

Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog y Prosiect, Andrew Thomas, ar 08445 460 460 neu anfon neges e-bost at athomas@gllm.ac.uk

* Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen gan Lywodraeth y DU am 2021/22. Y nod yw cefnogi'r bobl a'r cymunedau sydd fwyaf mewn angen yn y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredinol y DU. Mae'n buddsoddi mewn sgiliau, cymunedau a lleoliadau, busnesau lleol, ac yn cefnogi pobl i gael gwaith. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/government/...

Y Wasg / Y Cyfryngau

Os oes gennych ymholiad ar ran y wasg neu'r cyfryngau, cysylltwch â