Peirianneg o Fangor yn ennill gwobr Prentis y Flwyddyn - Gogledd Cymru

Enillodd Eva Voma o Fangor wobr 'Prif Brentis y Flwyddyn 2022 - Gogledd Cymry' yng ngwobrau Consortiwm Dysgu Seiliedig ar Waith Grŵp Llandrillo Menai a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Cyflwynir cyfanswm o 13 gwobr 'Prentis y Flwyddyn' bob blwyddyn mewn diwydiannau mor amrywiol â Gwallt a Harddwch, Diwydiannau'r Tir a llu o ddiwydiannau eraill.

Enillodd Eva wobr 'Prentis y Flwyddyn mewn Peirianneg' ac yn dilyn hynny cafodd ei dewis ar gyfer y brif wobr gan banel o arbenigwyr o Busnes@LlandrilloMenai, Hyfforddiant Gogledd Cymru a Hyfforddiant Arfon Dwyfor.

Gan siarad am ei phrentisiaeth, dywedodd Eva:

Penderfynais ddilyn prentisiaeth, oherwydd fel y mae pawb yn ei wybod, rydych yn ennill cyflog wrth i chi ddysgu. Felly, rydych yn cael y gorau o ddau fyd. Roeddwn i'n gallu parhau i ddysgu beth hoffwn ei wneud (fel gyrfa) a chael profiad o fyd gwaith ar yr un pryd. Mi ges i weld sut beth oedd byd gwaith mewn gwirionedd oherwydd, er bod y coleg yn gwneud ei orau i efelychu byd gwaith, dim ond yn y gweithle y cewch chi brofiad gwaith go iawn."

MAe Eva'n gweithio i International Safety Components (ISC) ltd ble mae hi'n Brentis Peirianneg Cynnyrch. Dywedodd Daniel Yates, Rheolwr Peirianneg yn International Safety Components (ISC):

"Mae Eva'n brentis talentog yn ISC ac mae hi wedi mynd o nerth i nerth, yn cynorthwyo ac yn rheoli prosiectau dylunio a pheirianneg amrywiol gyda'i gallu creu a dylunio. Mae'r prosiectau'n cynnwys cynorthwyo i adfywio un o'n Karabiners nodweddiadol a rheoli ei phrosiect datblygu ei hun drwy well dyluniad ein system angori gludadwy. Dangosodd Eva ei dawn dylunio drwy gynorthwyo'n adran farchnata i ailddatblygu gwaith pecynnu ein cynnyrch i wella steil y pecynnu, ei wneud yn fwy ymarferol ac yn haws i'w ailgylchu."

Meddai Paul Bevan, Uwch Gyfarwyddwr – Datblygiadau Masnachol Busnes@LlandrilloMenai, aelod o'r panel o arbenigwyr a ddewisodd Eva fel 'Prif Brentis y Flwyddyn':

"Roedd dewis prentis y flwyddyn eleni o blith yr holl ymgeiswyr arbennig yn anodd iawn - roedd pob un ohonyn nhw'n haeddu ennill.

"Roedden ni fel beirniaid yn chwilio am unigolyn oedd yn ymgorffori nodweddion prentis da. Roedd Eva'n sefyll allan oherwydd ei hymrwymiad i'w hyfforddiant a'i haddysg. Mae hi'n gallu cyfleu yn dda iawn beth yw prentisiaeth, ac mae hi wedi dangos cynnydd ac ymrwymiad i ddatblygu ei sgiliau Peirianneg yn ogystal â mynd ymlaen i ddilyn prentisiaeth gradd. BEng mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Bangor.

"Mae hi'n gaffaeliad mawr i'w cyflogwr, mae ei hangerdd dros ddysgu a'i hagwedd diymhongar yn ei gwneud yn llysgennad ardderchog dros brentisiaethau. Mae dyfodol disglair o'i blaen. “

Ers 2021, caiff enillwyr Gwobrau Prentisiaid Gogledd Cymru eu dewis ar ôl pleidlais ar-lein, a'r cyhoedd sy'n dewis eu hoff ymgeiswyr o restr fer yn y categorïau isod:

Rheoli a Gwasanaethau i Fusnesau, Manwerthu a Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Technoleg Gwybodaeth a Digidol,

Cyfrifeg, Lletygarwch, Gwallt a Harddwch, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Chwaraeon, Addysg a Gofal Plant, Peirianneg a Gweithgynhyrchu, Adeiladu, Diwydiannau'r Tir, Hyfforddeiaeth a Dyfarniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol*

I gael gwybod rhagor am Wobrau Prentisiaethau'r Flwyddyn 2021 ewch i awards.gllm.ac.uk

Neu os hoffech chi neu aelod o'r teulu ganfod rhagor am Brentisiaethau ffoniwch 08455 460 460 neu ewch i www.gllm.ac.uk/apprenticeships.