DIGWYDDIAD AM DDIM ar gyfer y diwydiant Lletygarwch, Arlwyo a Thwristiaeth
Trawsnewid eich 'Taith Ymwelydd'. Hybu Sgiliau, Effeithlonrwydd a Gwydnwch Busnes. Bod yn fwy cystadleuol yn 2023!
Archebwch eich lle: 22/03/2023 12.45-15.45
Lleoliad: Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
Darperir cinio ysgafn.
Digwyddiad AM DDIM fydd yn cynnwys araith gan yr arbenigwr twristiaeth Melanie Cash, a fydd yn rhannu ei blynyddoedd o brofiad gyda’r enwau mawr ym myd twristiaeth megis Marriott, Hilton, Accor, The Belfry Resort, Chewton Glen a mwy.
Bellach yn ymgynghorydd, hyfforddwr a mentor, bydd Melanie yn rhannu cynghorion a strategaethau hawdd a fydd yn trawsnewid profiad eich ymwelwyr, sef y ‘daith ymwelydd’. Byddwn yn trafod cydbwyso arferion busnes da, gan fodloni gofynion yr ymwelydd modern a chynnal tîm hapus, llawn cymhelliant.
Yn angerddol am wasanaeth cwsmeriaid o'r safon uchaf, a chyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ar lefel uwch reolwyr. Bydd Melanie yn trafod pwyntiau amrywiol o fewn ‘y daith’, gan gyflwyno cyfleoedd i ychwanegu gwerth i gynnyrch a gwasanaeth. Gyda phob pwynt yn creu ffocws ar gyfer gwelliant, byddwch hefyd yn clywed sut y maent ar y cyd, yn cyfrannu at nifer o fuddion busnes eraill.
Arddangosfa Hyfforddiant a Sgiliau
Ffactor allweddol yn y ‘daith’ yw tîm proffesiynol medrus, llawn cymhelliant. Bydd Busnes@LlandrilloMenai fel eich darparwr hyfforddiant lleol yn arwain trafodaeth ar sut mae prentisiaethau yn helpu i gyflawni hyn, gan gynorthwyo recriwtio, cadw staff a hwyluso dilyniant gyrfa.
Bydd nifer o ddysgwyr a chyflogwyr yn rhannu eu profiad o brentisiaethau cyn sesiwn cwestiwn ac ateb a diweddu trafodaeth y prynhawn.
Ymunwch â ni i ddathlu pethau cadarnhaol y diwydiant, trafod yr heriau a chasglu gwybodaeth i'w rhoi ar waith yn syth yn eich busnes chi.
I archebu eich lle, anfonwch neges e-bost i busnes@gllm.ac.uk neu ffoniwch 08445 460 460.