Llwyddiant Cogydd Ifanc o Fôn mewn noson wobrwyo

Derbyniodd cogydd o Ynys Môn, Sophie Rowe, ganmoliaeth hael gan feirniaid noson Wobrwyo Cogydd Cenedlaethol a gynhaliwyd yn ddiweddar. Paratôdd Sophie fwydlen flasus oedd yn cynnwys tarten gellyg a siytni i ddechrau, cig oen glastraeth gyda jus cig oen a chloren ac i bwdin, Mouse siocled tywyll gyda cheulad orennau gwaed

(*gweler y fwydlen isod) Mae Sophie yn mireinio ei sgiliau coginio yn y Gaerwen Arms ac yn hyfforddi yn y gweithle gyda Busnes@LlandrilloMenai. Mae hi bron â gorffen ei phrentisiaeth Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol. Mathew Smith, cogydd a darlithydd sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol dair gwaith oedd yn fuddugol eleni, a daeth Sophie yn ail, gan guro nifer o gogyddion profiadol ac aeddfed eraill.

Pennaeth Sophie, sef Andrew Tabberner, oedd yn ei chefnogi fel commis. ⁠Mae Andrew ei hun wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth ac yn gyn-enillydd Cogydd Iau Cymru. Ar ôl y digwyddiad dywedodd:

"Mae pawb yn y Gaerwen Arms yn ofnadwy o falch o Sophie. Mae hi wedi gweithio'n galed iawn i berffeithio ei phrydau ar gyfer y digwyddiad, ac mae'r ffaith bod un o gogyddion ieuengaf y gystadleuaeth wedi dod mor agos at ennill yn destun clod mawr iddi."

Ychwanegodd Aseswr Dysgu Seiliedig ar Waith Sophie, Tony Fitzmaurice:

⁠"Mae Sophie'n ddysgwr talentog iawn sy'n llawn brwdfrydedd dros y byd arlwyo, mae ganddi ddyfodol disglair o'i blaen. Rydym yn eithriadol o falch drosti hi a'r Gaerwen Arms, mae'n bleser i weithio gyda chogydd addawol sy'n gweithio yn un o brif fwytai Ynys Môn. Dw i'n edrych ymlaen at weld beth fydd hi'n ei wneud nesaf!"

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i brentisiaid, yn cynnwys Coginio Proffesiynol. I wybod rhagor am sut gall eich cwmni elwa o hyn ewch i www.gllm.ac.uk/apprenticeships

Darllenwch ragor am The Gaerwen Arms yma

Bwydlen Sophie, wedi'i ysbrydoli gan gynnyrch lleol:

Tarten Figan gyda siytni gellyg, pennau brocoli, Mouse caws figan, coesynnau brocoli a veloute brocoli

Rac cig oen glastraeth, gwddw oen gyda sglein, piwrî nionod wedi'u carameleiddio, nionod o Rosko, tatws boulangere a jus cig oen a chloren.

Cragen siocled gyda Mouse siocled tywyll, ceulad orennau gwaed, tuile caramel hallt, hufen ia llaeth enwyn ac almon cartref.

Y Wasg / Y Cyfryngau

Os oes gennych ymholiad ar ran y wasg neu'r cyfryngau, cysylltwch â