Diwrnod Hyfforddi Staff y Consortiwm Dysgu Seiliedig ar Waith 2023
Cynhaliodd Consortiwm Dysgu Seiliedig ar Waith Grŵp Llandrillo Menai (y Consortiwm) ei ddigwyddiad hyfforddi ddwywaith y flwyddyn yn ddiweddar ar gampws y Grŵp yn Llandrillo-yn-Rhos.
Mynychwyd y digwyddiad gan 120 o gynrychiolwyr a oedd yn canolbwyntio ar faterion cyfoes sy’n effeithio ar ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith, gan gynnwys sut i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn well a hyrwyddo ymwybyddiaeth dda o iechyd meddwl a lles.
Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai a Gwyneth Millington Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth, Conwy.
Sefydlwyd y Consortiwm yn 2011 i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant seiliedig ar waith i gyflogwyr a’u prentisiaid yng Ngogledd Cymru, gan hyfforddi dros fil o brentisiaid yn y rhanbarth bob blwyddyn mewn ystod enfawr o sectorau.
Mae’r Consortiwm yn gyfrifol am ddarparu rhaglen Brentisiaethau gwerth £13m Llywodraeth Cymru yng Ngogledd Cymru. Mae'r bartneriaeth yn cynnwys tri darparwr hyfforddiant - Hyfforddiant Gogledd Cymru, Hyfforddiant Arfon Dwyfor a Grŵp Llandrillo Menai.