Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sut mae prentisiaeth yn gweithio?

Mae prentisiaeth yn gweithio trwy gyfuno profiad gwaith â hyfforddiant, gan ganiatáu ichi ennill cyflog wrth ddysgu a hefyd ennill cymhwyster cydnabyddedig.

1. Dod o Hyd i Gyflogwr
Rydych chi’n gwneud cais am brentisiaeth yn union fel y byddech yn gwneud cais am swydd. Os cewch eich derbyn, rydych chi’n dod yn weithiwr i’r cwmni – ond hefyd yn brentis.

2. Ennill Cyflog wrth Ddysgu

  • Rhaid i chi fod wedi’ch cyflogi rhwng 16 a 40 awr yr wythnos
  • Byddwch yn cael eich talu am eich amser yn y gwaith ac am unrhyw amser a dreuliwch yn y coleg neu gyda’ch asesydd.
  • Byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol, penodol i’r swydd yn y gweithle.

3. Hyfforddiant
Mae prentisiaid yn derbyn hyfforddiant ochr yn ochr â’u swydd. Gall hyn fod yn y gweithle, ar-lein, neu drwy gael eich rhyddhau am ddiwrnod i fynd i un o’n campysau. Mae hyn yn cynnwys gwaith theori, diogelwch, gwybodaeth dechnegol a sgiliau hanfodol (yn dibynnu ar gymwysterau blaenorol).

4. Cynnydd ac Asesu

  • Byddwch yn cael eich asesu drwy gydol eich prentisiaeth
  • Byddwch yn cwblhau aseiniadau, profion, neu arddangos sgiliau lle bo angen.
  • Bydd eich cynnydd yn cael ei adolygu o leiaf bob with wythnos gyda’ch asesydd a’ch cyflogwr.

5. Cwblhau a Chymhwyso

  • Byddwch yn derbyn tystysgrif neu drwydded a gydnabyddir gan gyflogwyr yn eich diwydiant
  • Gallwch weithio fel crefftwr neu
  • weithiwr proffesiynol.
Dysgwr ar leoliad prentisiaeth

Sut ydw i’n dod o hyd i swydd?
Gall dod o hyd i brentisiaeth deimlo’n frawychus ond mae’n dod yn llawer haws pan fyddwch chi’n ei rannu’n gamau llai.

1. Penderfynu beth yr hoffech ei wneud
Pa fath o waith sydd o ddiddordeb I chi? (ymarferol, creadigol, technegol, yn wynebu cwsmeriaid, ac ati) Pa sgiliau sydd gennych chi neu beth yw eich cryfderau? Pa fath o amgylchedd ydych chi’n ei hoffi — swyddfa, awyr agored, llawr siop, ac ati?

Os nad ydych chi’n siŵr, ceisiwch restru eich hoff bynciau, hobïau, neu bethau rydych chi’n naturiol dda ynddyn nhw.

2. Paratowch yr hyn sydd ei angen arnoch
Mae CV yn rhestru eich addysg, eich sgiliau, eich diddordebau a’ch profiad. Gallech hefyd gynnwys:

  • Gwirfoddoli
  • Prosiectau ysgol
  • Clybiau neu dimau chwaraeon
  • Llythyr eglurhaol yn egluro pam rydych chi eisiau’r swydd.
  • Canolwyr (os yn bosibl): Rhywun sy’n eich adnabod yn dda e.e. athro neu gyflogwr.

3. Gallwch chwilio am swyddi yma:

  • Hysbysfwrdd Swyddi GLlM
  • Gyrfa Cymru
  • Y Ganolfan Byd Gwaith
  • Indeed
  • Cyfryngau Cymdeithasol
  • Canolfannau gyrfaoedd mewn ysgolion neu mewn rhaglenni cymunedol
  • Gwefannau ar gyfer prentisiaethau neu grefft
  • Defnyddiwch Google i chwilio am gyflogwyr lleol er enghraifft cynghorau, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau mawr a bach.
  • Gofynnwch i deulu, ffrindiau, athrawon, neu grwpiau cymunedol a ydyn nhw’n gwybod am swyddi gwag.

Daliwch ati i chwilio’n rheolaidd!

4. Gwneud cais

  • Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr hysbyseb swydd yn ofalus.
  • Addaswch eich CV a’ch llythyr eglurhaol ar gyfer pob swydd.
  • Cyfathrebwch mewn ffordd gwrtais a phroffesiynol.

5. Paratoi ar gyfer cyfweliad

  • Dysgwch am y cyflogwr.
  • Ymarfer cwestiynau cyffredin e.e. “Dywedwch wrthyf amdanoch chi’ch hun”, “Pam rydych chi eisiau’r swydd hon?”.
  • Gwisgwch yn daclus a byddwch yn brydlon.
  • Dangoswch frwdfrydedd a chwrteisi.

6. Peidiwch â rhoi’r gorau iddi
Os na chewch chi un swydd, peidiwch â phoeni. Yn aml, mae pobl yn gwneud cais am sawl swydd cyn iddyn nhw fod yn llwyddiannus. Daliwch ati i wella eich CV, ymarfer cyfweliadau, a gwneud ceisiadau yn rheolaidd.

Am gymorth i ysgrifennu CV, cwblhewch ffurflen Ymholiad Camva.

Gwneud cais am eich prentisiaeth
Pan fyddwch wedi dod o hyd i swydd addas, cysylltwch â ni eto a byddwn ni yn cysylltu â’ch cyflogwr newydd i esbonio manteision y Brentisiaeth, pryd allwch chi ddechrau a sut allwch chi gofrestru.

Gallwch gysylltu â ni eto drwy lenwi’r ffurflen ymholiad.

CAMVA logo