Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sicrhau eich Lle

Mae pawb yn y coleg wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau y byddi'n cael profiadau gwych yn y coleg ac ar dy gwrs, a hynny mewn amgylchedd croesawgar fydd yn dy roi di'n gyntaf.

Mae'r dyddiadau canlynol yn bwysig wrth i ti baratoi i ddechrau yn y coleg

Cam 1- Digwyddiadau Sicrhau dy Le
Unwaith y byddi wedi derbyn canlyniadau dy arholiadau TGAU, tyrd draw i'r coleg unrhyw bryd rhwng 10am a 4pm ar y naill ddiwrnod neu'r llall i sicrhau dy le ar y cwrs rwyt ti wedi ei ddewis.

Os na fyddi di wedi cael y canlyniadau sydd eu hangen ar gyfer dy gwrs a'th fad angen cefnogaeth a gwybodaeth bellach, paid a phoeni. Gelli siarad â thiwtor neu'r tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr er mwyn cael gwybodaeth am y cwrs sy'n iawn i ti. Rydym ni yma ar y safle i roi help i ti.

Cam 2 - Y Dyddiad mae'r Coleg yn Dechrau, Dydd lau 31 Awst 2023
Bydd y cyfnod cynefino â'r cwrs a'r coleg yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod ar 31 Awst a 1af o Medi. Bydd hall fyfyrwyr Ilawn amser y flwyddyn gyntaf yn cwrdd â'u tiwtoriaid, yn cael trosolwg o'u rhaglen ac yn cael eu hamserlen am y flwyddyn.

Edrychwn ymlaen at dy groesawu i'r coleg.

  • Heb gael y canlyniadau roeddet ti'n eu disgwyl?
  • Wedi newid dy feddwl am fynd yn ôl i'r ysgol?

Mae yna lefydd ar gael o hyd ar gyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi.

Tyrd draw i un o'n campysau neu cysyllta â thîm ein Gwasanaethau i Ddysgwyr i gael gwybod rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael i ti.

Oes gennych gwestiwn? Cysylltwch â ni!

Roedd pobl yn sefyll yn erbyn wal