Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prosiect Lluosi i Sefydliadau

Gallwn ddatblygu sgiliau a hyder eich gweithlu, neu'r bobl rydych chi'n eu cefnogi trwy gynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi cael eu teilwra i'w hanghenion a'u gobeithion nhw.

Ydych chi'n fusnes neu'n sefydliad sy'n rhoi lle canolog i'r bobl rydych chi'n eu cefnogi ym mhopeth a wnewch?

Mae Prosiect Lluosi wedi gweithio gydag ystod eang o sefydliadau ledled gogledd Cymru, gan helpu i wella hyder y bobl maen nhw'n gweithio gyda nhw wrth drin rhifau. Gallwn ddatblygu cyrsiau ym mhob cyd-destun – boed hynny i wella cyfleoedd gwaith, i wella sgiliau, i ddatblygu staff, i helpu pobl i ddychwelyd i addysg neu i wella lles cyffredinol.

Gallwn ddatblygu a darparu cyrsiau rhifedd AM DDIM sydd wedi'u teilwra'n gyfan gwbl i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi. Ar ben hynny, byddwn yn eu cyflwyno ar yr adegau ac yn y lleoliadau sydd fwyaf cyfleus i chi a'ch tîm. ⁠

Dyma enghraifft o'r cyrsiau rydyn ni wedi'u cynnal ar y cyd â sefydliadau eraill yn siroedd Dinbych, Conwy, Gwynedd a Môn:

  • Trin arian yn y gweithle
  • Sgiliau rhifedd ar gyfer cyflogaeth a dyrchafiad
  • Mathemateg i Gynorthwywyr Addysgu
  • Rhedeg eich busnes eich hun
  • Rhifau wrth gadw'n iach a heini
  • Dosbarthau meistr ar ddefnyddio Microsoft Excel
  • Rhifedd ar gyfer sgiliau digidol
  • Hyfforddi'r Ymennydd i Bobl Hŷn
  • Cyrsiau i feysydd penodol fel adeiladu lletygarwch ac iechyd a gofal cymdeithasol

Gall Prosiect Lluosi hefyd gynnig sesiynau tiwtora AM DDIM i unigolion sy'n dymuno ennill cymwysterau mathemateg ffurfiol, fel cymhwyster TGAU neu gymhwyster 'Cymhwyso Rhif' Sgiliau Hanfodol Cymru sy'n gyfwerth â TGAU.

Y Manteision
Drwy wella sgiliau rhifedd, gwybodaeth a hyder eich gweithwyr gallwch helpu eich busnes i ffynnu. Dyma rai o'r manteision:

  • Llai o gamgymeriadau yn y gweithle
  • Gwell cynhyrchiant
  • Gweithwyr mwy hyderus
  • Rhoi'r sgiliau angenrheidiol i weithwyr ddatblygu ac ymgymryd â heriau newydd yn y gweithle

Sut mae'n gweithio?
I fynegi diddordeb mewn cwrs, anfonwch neges e-bost i lluosi@gllm.ac.uk gan roi disgrifiad byr o'ch sefydliad, y sir neu'r siroedd rydych chi'n gweithio ynddynt, a'r math o gwrs neu gyrsiau yr hoffech i Brosiect Lluosi eu cyflwyno i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw.

Bydd un o'n Cydlynwyr yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Gallwch hefyd ein ffonio ar: 01492 542 338

Dyn yn rhoi cyflwyniad