Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canolfan Beirianneg - Coleg Llandrillo

Mae Canolfan Beirianneg y Rhyl yn gyfleuster tri llawr o’r radd flaenaf sy’n ymestyn dros 3000m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o’r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf.
O roboteg a pheiriannau prototeipio cyflym i beiriannau torri metel diwydiannol mawr a reolir gan gyfrifiaduron, mae’r ganolfan wedi’i chynllunio i ddarparu profiadau dysgu na ellir eu curo.

Yn ddi-os, mae Canolfan Beirianneg Coleg Llandrillo yn ganolfan ragoriaeth benigamp sy’n cynnig i ddysgwyr yr offer diweddaraf ac uchaf ei safon yng Nghymru a’r cyfle i feithrin sgiliau a fydd yn bodloni gofynion y sector Beirianneg.

Bwriad y datblygiad, a ariennir ar y cyd gan ‘Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy’ Lywodraeth Cymru a Grŵp Llandrillo Menai, yw rhoi i drigolion yr ardal y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gyrfaoedd llewyrchus ym maes peirianneg, ac mae hyn yn cynnwys y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Elfen allweddol o’r datblygiad trawsnewidiol hwn yw’r cyfleuster hyfforddi ym maes technoleg ynni adnewyddadwy, sy’n bartneriaeth ar y cyd â RWE Renewables, cwmni rhyngwladol sy’n adnabyddus am reoli nifer o safleoedd ynni adnewyddadwy ledled y DU. Nodwedd amlwg o’r ganolfan fydd neuadd i wasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt ar raddfa ddiwydiannol, sy’n brawf o’r ymrwymiad i arloesi a hyrwyddo addysg ym maes ynni adnewyddadwy.

I ddysgu rhagor am yr amrywiaeth eang o gyrsiau peirianneg sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo a sut i wneud cais, ewch i www.gllm.ac.uk/engineering

Labordy Electroneg

Labordy Electroneg

Yn ein Labordy Electroneg gall hyd at 18 myfyriwr ddylunio, efelychu, adeiladu, dilysu a phrofi prototeipiau o gylchedau electronig cyn eu bod yn cael eu cynhyrchu ar fyrddau cylched printiedig. Yn y labordy hefyd ceir system echdynnu i gael gwared yn effeithlon ar yr holl fygdarthau a ryddheir yn ystod y broses sodro.

Ystafelloedd CAD/CAM

Ystafelloedd CAD/CAM

Ystafelloedd Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur a Gweithgynhyrchu gyda Chymorth Cyfrifiadur lle gall hyd at 24 o fyfyrwyr weithio ar gyfrifiaduron cyflym i greu modelau 3D o gydrannau peirianneg i’w gweithgynhyrchu. Mae’r feddalwedd ddiweddaraf ar gael i’r myfyrwyr allu troi eu dyluniadau’n gyflym yn rhaglenni cyfrifiadurol i’w rhedeg ar beiriannau CNC.

Gweithdy Peiriannau

Gweithdy Peiriannau

Mae’r 10 turn a’r 5 peiriant melino newydd yn ein Gweithdy Peiriannu yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr feithrin y sgiliau gwaith llaw sydd eu hangen i durnio a melino metelau amrywiol. Mae myfyrwyr yn datblygu’r arferion gorau wrth ddefnyddio’r peiriannau, gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch a phwysigrwydd offer diogelu personol.

Gweithdy CNC

Gweithdy CNC

Yn y gweithdy Rheolaeth Rifol Gyfrifiadurol bydd y myfyrwyr yn rhedeg eu rhaglenni cyfrifiadurol eu hunain ar beiriannau CNC sydd o’r un safon ag a geir mewn diwydiant. Mae’r myfyrwyr yn dysgu am raglennu cyfnewidiadol, gan gynnwys prosesau peiriannu 2D a 3D. Yn ogystal, gallant wirio cywirdeb a goddefiannau’r cydrannau y maent wedi’u peiriannu ar beiriant mesur cyfesurynnau.

Canolfan Peirianneg y Rhyl

Gweithdai a Labordai Peirianneg

Mae’r Gweithdai a’r Labordai Peirianneg wedi’u cynllunio i roi cyfle i’r myfyrwyr ddysgu gydag offer modern o’r un safon ag a geir mewn diwydiant a phrofi amgylchedd gwaith go iawn mewn modd diogel. Mae’r Ganolfan Beirianneg yn cynnwys:

  • Labordy Electroneg
  • Labordy Gwyddoniaeth Fecanyddol
  • Labordy Roboteg
  • Labordy Prototeipio Cyflym
  • Diwydiant 4.0 a Realiti Rhithwir
  • Gweithdy Tyrbinau Gwynt
  • Gweithdy Gosod Meinciau
  • Gweithdy Peiriannu
  • Gweithdy CNC
  • Ystafelloedd CAD/CAM

Mae myfyrwyr galwedigaethol yn treulio cyfran uchel o’u hamser yn y gweithdai a’r labordai, gan ddod yn gyfarwydd ag amgylchedd diwydiannol, termau peirianneg, pwysigrwydd iechyd a diogelwch ac wrth gwrs feithrin gwybodaeth a sgiliau galwedigaethol ym maes peirianneg. Mae’r holl weithdai’n cynnwys sgriniau cyffwrdd 86” i’r staff gyflwyno theori ochr yn ochr â sesiynau ymarferol. Yn y Ganolfan Beirianneg hefyd ceir saith ystafell ddosbarth ychwanegol ar gyfer rhoi gwersi traddodiadol, ac ym mhob un mae un prif gyfrifiadur, sgrin gyffwrdd 86” a 24 Chromebook.