Noson Wybodaeth Lefel A
Noson Wybodaeth am Gyrsiau Lefel A
Ydych chi'n rhiant neu warcheidwad sydd am gael rhagor o wybodaeth am bynciau Lefel A yn y coleg?
Yn y sesiwn wybodaeth hon, cewch gyfarfod â'r Rheolwr Rhaglen a'r Pennaeth Cynorthwyol. Byddant yn eich cyflwyno i'r dewis eang o bynciau Lefel A ac AS sydd ar gael yn y coleg ac yn rhannu gwybodaeth am gyfraddau llwyddo a chyn-fyfyrwyr sydd wedi mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion blaenllaw, gan gynnwys Caergrawnt a Rhydychen.
Cofiwch mai digwyddiad penodol ar gyfer pynciau Lefel A ac AS yw hwn ac nid digwyddiad agored llawn. Os hoffech weld ein cyfleusterau, siarad â'r tiwtoriaid, neu wybod rhagor am y gefnogaeth sydd ar gael, dewch draw i un o'n digwyddiadau agored ym mis Tachwedd neu fis Mawrth.