Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dwdlio Zen - Canolradd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10 wythnos, 3 awr yr wythnos

Gwnewch gais
×

Dwdlio Zen - Canolradd

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn parhau i ddatblygu eich sgiliau lluniadu a ddysgwyd ar y cwrs Dwdlio Zen sylfaenol a'r cwrs Gwella eich Sgiliau Dwdlio Zen.

Mae'r cwrs hwn yn addas i'r sawl sydd am symud ymlaen o'r cwrs gwella sgiliau Dwdlio Zen - ac yn galluogi dysgwyr i godi lefel eu sgiliau lluniadu a dysgu technegau newydd.

Mae'r cwrs hwn yn eich annog i ddatblygu eich gwaith patrwm sylfaenol ac yn cynnwys dyluniadau mwy cymhleth gan ddefnyddio technegau mwy hwyliog i fireinio eich gwaith celf.

Mae dwdlio yn eich helpu i ganolbwyntio drwy greu dim ond digon o symbyliad i atal eich ymennydd rhag "cysgu". Mae'n aml yn cael ei ddefnyddio fel techneg meddylgarwch ac mae'n tawelu'r meddwl.

Mae iddo fanteision lu:

  • lleihau straen
  • gwella eich gallu i ganolbwyntio
  • ffordd o fyfyrio
  • rhoi rhyddhad emosiynol
  • ysgogi creadigrwydd
  • ⁠datrys problemau
  • annog gwytnwch

Ffi'r cwrs: £90.00

Gofynion mynediad

Cwblhau cwrs Hanfodion Dwdlio Zen neu gwrs gwella sgiliau Dwdlio Zen

Nid oes angen cyfweliad.

Cyflwyniad

Dysgu yn y dosbarth.

Asesiad

Portffolio o waith.

Dilyniant

Cyflwyniad i Luniadu a Phaentio.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Cyrsiau Hamdden

Cyrsiau Hamdden

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyrsiau Hamdden