Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Tŷ Cyfle - Caernarfon, Tŷ Cyfle - Bangor
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Dwy awr a hanner yr wythnos

Cofrestru
×

Hanes Cymru

Oedolion a Rhan-amser

Tŷ Cyfle - Caernarfon
Cwrs dydd: 06/01/26, 13:30 yh | Cost: AM DDIM
Dydy hi ddim yn rhy hwyr i gofrestru!
Tŷ Cyfle - Caernarfon
Cwrs dydd: 14/04/26, 13:30 yh | Cost: AM DDIM

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae hwn yn gwrs hanes sylfaenol a chyflwyniadol ar gyfer oedolion sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddatblygiad hanes Cymru, neu sy’n dymuno adnewyddu eu gwybodaeth am gyfnodau, themâu a dylanwadau allweddol o orffennol Cymru. Mae’r cwrs yn archwilio sut mae Cymru wedi newid dros amser a sut mae ei hanes wedi llunio bywyd yng Nghymru heddiw.

Ochr yn ochr â'r hanes, bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau digidol i ymchwilio gwybodaeth ar-lein, gan gefnogi’r broses o archwilio cerrig milltir, sefydliadau ac unigolion allweddol yn hanes Cymru. Gall themâu a chynnwys y cwrs amrywio o gwrs i gwrs, ac nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol.

Gofynion mynediad

Dim Gofynion Mynediad

Cyflwyniad

  • Cyflwyniadau
  • Gwaith pâr
  • Gwaith grŵp

Asesiad

Dim.

Dilyniant

Cyrsiau amrywiol o fewn yr adran:

  • Rhoi Sglein ar eich Sgiliau
  • Sgiliau ar Gyfer Astudio Ymhellach lefel 1
  • Cwrs Cyn-mynediad Lefel 2

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Cyrsiau Rhan-amser Am Ddim

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cyrsiau Hamdden

Cyrsiau Hamdden

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyrsiau Hamdden