Cyn-Alwedigaethol
Yn y maes hwn, mae’r ddau lwybr canlynol ar gael:
Cyn-alwedigaethol
Prif ddiben y llwybr hwn yw cefnogi pobl ifanc er mwyn iddynt fynd ymlaen i ddilyn cyrsiau llawn amser mewn addysg prif ffrwd, i gael gwaith gwirfoddol neu waith cyflogedig neu i ddilyn prentisiaethau neu raglenni ymgysylltu/hyfforddeiaethau. Ceir cyfleoedd i fynd ar brofiad gwaith gyda chyflogwyr lleol fel Zip World, Gerddi Bodnant a’r Farm and Pet Place, neu ar sesiynau rhagflas i feysydd rhaglen eraill. Yna bydd dysgwyr yn symud ymlaen i leoliad profiad gwaith annibynnol, un ai dan gyflog neu’n wirfoddol.
Project Search
Prif ddiben y llwybr hwn yw cefnogi pobl ifanc i gael gwaith cyflogedig llawn amser/rhan-amser. Gwneir hyn drwy ddefnyddio’r model interniaeth gyda chymorth, Project Search. Y cyflogwr lleol sy’n cymryd rhan ym mhartneriaeth Project Search yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.