Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyrsiau Undydd (STEPS) - Llangefni

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Mae y rhan fwyaf o'r cyrsiau yma am 3 awr am 10 wythnos.

Cofrestrwch
×

Cyrsiau Undydd (STEPS) - Llangefni

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cyrsiau yma ar gyfer dysgwyr sydd gydag anghenion cefnogaeth ychwanegol er mwyn iddynt gael cymorth i fanteisio ar fyw bywyd llawn.

Dyma'r pynciau sydd ar gael :

  • Datblygu annibyniaeth a chynnydd personol
  • Coginio/Defnyddio cyfrifiaduron/Celf/Menter
  • Celfyddydau gweledol creadigol
  • Ffotograffiaeth/Peintio/Cerflunio/Creu Printiau
  • Llythrennedd Digidol
  • Siopa ar lein/Diogelwch gyda rhyngrwyd/Ffurflenni ar lein/Talu biliau

Bydd pwyslais ar ddatblygu hyder ac annibyniaeth.

Byddwn yn codi ffi am y cwrs (cysylltwch am fanylion).

Gofynion mynediad

Dim anghenion mynediad ffurfiol.

Cyflwyniad

Gweithgareddau ymarferol.

Cewch eich dysgu mewn grwpiau bach, mewn awyrgylch gartrefol, hwyliog a chymdeithasol.

Asesiad

Byddwn yn casglu tystiolaeth o'r gwaith ar gyfer ei asesu.

Byddwn yn gweithio at gymhwyster allanol.

Dilyniant

Parhau ar y cwrs am flwyddyn er mwyn datblygu sgiliau pellach.

Neu

Gallwch ystyried dewis cwrs mewn maes gwahanol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Maes rhaglen:

  • Sgiliau Byw'n Annibynnol

Dwyieithog:

n/a

Sgiliau Byw'n Annibynnol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Sgiliau Byw'n Annibynnol

Myfyrwyr yn planu planhigion