Tystysgrif mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd), Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Hyd at 18 mis
×Tystysgrif mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol
Tystysgrif mewn Asesu Cyflawniad GalwedigaetholCyrsiau Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Os ydych am fod yn asesydd, yna dyma'r cymhwyster i chi.
Mae'r cymhwyster yn cynnwys tair uned, un sy'n seiliedig ar theori a'r ddwy arall yn ymarferol. Bydd angen cyswllt â dau ddysgwr seiliedig ar waith arnoch ar gyfer yr uned ymarferol a dau ddysgwr seiliedig ar weithdy/ystafell ddosbarth sy'n cael eu hasesu ar raglen gydnabyddedig.
Gofynion mynediad
- Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- 16 awr o ddysgu a chyfnod cynefino.
- Astudio annibynnol ac o dan arweiniad tiwtor.
- Aseiniadau i gwblhau 8 canlyniad dysgu ynghyd â thrafodaeth broffesiynol i ddilyn.
- Yn yr uned ymarferol byddwch yn cael eich arsylwi yn yr amgylchedd gwaith ac mewn ystafell ddosbarth/ffug-amgylchedd yn asesu dau ddysgwr ar gymhwyster cydnabyddedig.
- Cysylltiad misol rheolaidd gydag asesydd trwy gydol y broses.
Asesiad
- Wedi'i selio ar asesiad a e-phortffolio
Dilyniant
Gallech fynd ymlaen i ddilyn rhaglenni Sicrhau Ansawdd.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Arbenigol / Arall
Dwyieithog:
n/a