Canllawiau i Fusnesau Cynaliadwy

Adnodd i'ch busnes ar effeithlonrwydd ac arbed arian. Cofrestrwch heddiw i dderbyn copi am ddim.

Bwriad y Canllawiau i Fusnesau Cynaliadwy yw eich helpu i arbed arian trwy gynnig cyngor ynghylch sut y gall camau arbed ynni gynyddu effeithlonrwydd yn y cartref a'r gweithle, lleihau eich ôl troed carbon a gwella cynaliadwyedd.

Os ydych yn meddwl dechrau busnes ac yn chwilio am ysbrydoliaeth neu'n awyddus i newid y ffordd rydych chi'n gweithredu, ein nod yw rhannu adnoddau a syniadau am sut i wneud eich busnes yn arloesol ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd y Canllawiau’n osgoi'r duedd i wyrddgalchu ac yn edrych ar gynaliadwyedd mewn ffordd ymarferol ac effeithiol.

Mae'r Canllawiau’n edrych ar feysydd pwysig fel

  • Mesur a Rheoli eich Allyriadau
  • Effeithlonrwydd Digidol
  • Gwresogi, Goleuo, Offer, a Defnyddio'r Gegin
  • Adeiladu Tîm Gwyrdd

Llenwch y ffurflen isod i gofrestru i gael eich ‘Canllawiau i Fusnesau Cynaliadwy’

Y Canllaw Busnes Cynialadwy
Cyfeiriad y cyflogwr

Os ydych chi'n barod i wneud newidiadau, ymunwch â'r Academi Ddigidol Werdd. Gan weithio gyda mentor, gallwn eich helpu i werthuso eich sefyllfa bresennol, dadansoddi eich busnes, a datblygu cynllun i gael hyfforddiant a chyllid i'ch cefnogi i leihau eich ôl troed carbon. Cysylltwch â ni trwy'r dudalen Academi Digidol Werdd.