Datgloi Cyfleoedd: ‘Digwyddiad Cwrdd â'r Cyllidwr’

Dewch i weld sut y gall eich cwmni elwa ar Gyllid Newydd gan Lywodraeth y DU sydd wedi'i gynllunio'n benodol i ddiwallu anghenion busnesau gogledd Cymru.

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn cynnal brecwast busnes Cwrdd â'r Cyllidwr fydd yn gyfle i fusnesau gogledd Cymru gael mynediad at yr hyfforddiant a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (UKSPF) trwy brosiectau newydd sydd wedi'u teilwra'n arbennig i ddiwallu anghenion yr ardal.

Cynhelir brecwastau Cwrdd â'r Cyllidwr yng Nghanolfan Busnes Môn ar 24 Ebrill 2024.

Mae'r digwyddiadau'n gyfle i gael gwybod sut i gael mynediad at gyllid. Bydd cynrychiolwyr hefyd yn gallu cymryd rhan yn y sesiwn holi ac ateb cyn rhwydweithio â phobl fusnes eraill a chysylltu â'r tîm sy'n gyfrifol am ddarparu ein prosiectau UKSPF.

Bydd Cwrdd â’r Cyllidwr yn sôn am sut:

  • Mae Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru yn helpu cwmnïau drwy nodi bylchau mewn sgiliau a chyfeirio cyflogwyr at hyfforddiant a ariennir yn llawn er mwyn hwyluso twf, diogelu swyddi a chefnogi'r broses o greu swyddi newydd.
  • Mae'r Academi Ddigidol Werdd yn ariannu mentoriaid arbenigol sy'n helpu busnesau i fabwysiadu technolegau digidol, gwella eu heffeithlonrwydd a'u cynhyrchiant, a lleihau allyriadau carbon.
  • Mae Hyfforddiant Sero Net Gwynedd yn darparu hyfforddiant arloesol ym maes datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy ac ôl-osod mewn canolfan ddatgarboneiddio newydd yn Nhŷ Gwyrddfai, Penygroes.
  • Mae Lluosi yn helpu oedolion i wella eu rhifedd. Mae'r prosiect yn cynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau rhifedd AM DDIM ar draws Gogledd Cymru.

Mae'r prosiectau hyn wedi'u cynllunio'n strategol i ddarparu sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau hanfodol, gan fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r heriau a'r cyfleoedd a wynebir gan fusnesau yn y rhanbarth.

Mae'r cyllid ar gael tan ddiwedd 2024, felly peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael gwybod rhagor. I fod yn bresennol ym mrecwastau busnes Cwrdd â'r Cyllidwr archebwch eich lle heddiw. https://www.eventbrite.co.uk/e/cwrdd-ar-cyllidwr-cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du-meet-the-funder-ukspf-tickets-861451714267

Y Wasg / Y Cyfryngau

Os oes gennych ymholiad ar ran y wasg neu'r cyfryngau, cysylltwch â