Hwb sgiliau y mae galw mawr amdanynt i Ogledd a Chanolbarth Cymru

Mae SP Energy Networks a’r darparwr hyfforddiant arbenigol Busnes@LlandrilloMenai wedi ffurfio partneriaeth i ddarparu sgiliau y mae galw mawr amdanynt i ddarpar weithwyr yn y sector ynni ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Mae’r cwmnïau’n rhedeg cwrs hyfforddi newydd ar y cyd yn ymdrin â llinellau uwchben a fydd yn golygu bod hyfforddeion yn ennill y profiad sydd ei angen i weithio ar y rhwydwaith trydan ac yn eu helpu i wneud cais am swyddi ar draws amrywiaeth o fusnesau yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru sy’n cefnogi SP Energy Networks ac yn darparu gwasanaethau yn ymwneud ag ynni.

Nod y cwrs, a lansiwyd yn gynharach eleni, yw hyfforddi staff llinellau uwchben dros gyfnod o 22 wythnos gan ddefnyddio cymysgedd o theori trydanol yn yr ystafell ddosbarth a hyfforddiant ymarferol yn y maes a disgwylir i hyd at 70 o bobl elwa dros gyfnod o ddwy flynedd. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, bydd crefftwyr y llinell uwchben yn gallu rhoi eu hyfforddiant ar waith drwy weithio yn y diwydiant rhwydweithiau trydan.

Dywedodd Liam O’Sullivan, Cyfarwyddwr Trwydded SP Energy Networks: “Mae ein cymunedau wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud ac rydyn ni wedi ymrwymo i recriwtio a hyfforddi pobl yn y cymunedau hyn.

“Mae ein gwaith gyda Busnes@LlandrilloMenai a’n partneriaid ymroddedig yn y gwasanaeth contractwyr wedi ein galluogi i agor cwrs hyfforddi newydd ar linellau uwchben a fydd yn golygu y bydd gennym gyfoeth o arbenigwyr hyfforddedig wrth law i’n cefnogi ni ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru os bydd toriad yn y pŵer neu dywydd gwael, ar yr un pryd â chefnogi’r gwaith o gyflawni ein cynllun busnes ED2.”

Wrth gyfarfod â’r hyfforddeion newydd, ychwanegodd Liam O’Sullivan, Cyfarwyddwr Trwydded SP Energy Networks: “Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o ddiddordeb sydd gan y myfyrwyr yn y cwrs ac ymuno â nhw ar ddiwrnod o hyfforddiant. Nid oes gennym unrhyw amheuaeth y bydd llawer ohonynt yn ein helpu yn y dyfodol agos ac rydym yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o recriwtiaid yn ymuno â'r cwrs nesaf a gynhelir yr haf hwn."

Cyflwynir y cwrs hyfforddi llinellau uwchben yng Nghanolfan Sgiliau a Thechnoleg Seilwaith (CIST) Busnes@LlandrilloMenai, sef canolfan arbenigol sy’n darparu rhaglen o hyfforddiant achrededig a ddatblygwyd law yn llaw â phartneriaid masnachol ochr yn ochr â rhanddeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol.

Dywedodd Gwenllian Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol - Datblygu Masnachol, Busnes@LlandrilloMenai: “Mae’r adnoddau hyfforddi rydyn ni wedi’u datblygu gydag SP Energy Networks eisoes yn darparu crefftwyr medrus ar gyfer llinellau uwchben. Wrth i’n partneriaeth ddatblygu a thyfu, rydym yn gobeithio y bydd yn darparu cronfa dalent leol fedrus a fydd yn gallu diwallu anghenion gweithredol rhanbarthol SP Energy Networks ac yn wir anghenion yr economi ranbarthol yn ehangach. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod ein partneriaeth yn arfogi pobl o bob rhan o Ogledd a Chanolbarth Cymru â’r hyfforddiant, y sgiliau a’r wybodaeth i ymateb i anghenion diwydiant.

“Mae’r cydweithio hwn yn adeiladu ar berthynas hirsefydlog â SP Energy Networks ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i arddangos CIST, ein canolfan hyfforddi arbenigol, a thrafod sut y gallwn ddatblygu’r berthynas fasnachol hon ymhellach.”

Nid dyma’r tro cyntaf i gwrs fel hwn gael ei gynnig gan SP Energy Networks. Yn ôl yn 2013 cynhaliwyd cwrs tebyg gan weithredwr y rhwydwaith a oedd yn hyfforddi cyfanswm o 35 o hyfforddeion. Dros ddegawd yn ddiweddarach, mae 25 o’r hyfforddeion hynny’n dal i ymarfer eu crefft heddiw, gyda dau wedi dechrau eu busnesau eu hunain sy’n helpu ac yn cefnogi partneriaid gwasanaeth SP Energy Networks.

Pagination

Y Wasg / Y Cyfryngau

Os oes gennych ymholiad ar ran y wasg neu'r cyfryngau, cysylltwch â