Digwyddiadau arloesi ar gyfer twristiaeth i’r lansiad i fusnesau Conwy ddydd Llun
Rhennir y wybodaeth a’r arbenigedd lleol a rhyngwladol orau gyda busnesau twristiaeth a lletygarwch Conwy mewn cyfres o 10 digwyddiad rhad ac am ddim sydd yn dechrau ddydd Llun.
Mae digwyddiadau’r Rhaglen Arloesi ar Gyfer Twristiaeth, sy’n cynnwys siaradwyr cyweirnod, fforymau trafod wedi’u hwyluso, gweithdai, dosbarthiadau meistr a hyfforddiant, yn anelu i ddarparu gwybodaeth werthfawr a mewnwelediad i fusnesau fynd gyda hwy a’i ddefnyddio yn syth.
Ariennir y rhaglen hon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) drwy Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth gan Grŵp Llandrillo Menai a Mostyn Estates. Ewch i https://northwalestourism.com/tourism-innovation-programme/ am y manylion llawn ynghylch y digwyddiadau a sut i gofrestru.
Bydd digwyddiad rhwydweithio ‘Y Gorau o Gonwy’, sy’n anelu i adeiladu partneriaethau a chadwyni cyflenwi lleol cryfach, yn lansio’r gyfres ddydd Llun yn Venue Cymru, Llandudno o 10.30am i 1pm.
Bydd sesiwn panel ar “Caffael a chefnogi lleol” yn cael ei gadeirio gan Ashley Rogers, prif weithredwr y North Wales Mersey Dee Business Council. Bydd y panelwyr yn cynnwys Sean Taylor, perchennog Zip World, y ffermwr Gareth Jones, Adam Williams, Tir Prince Group, Glenn Evans, rheolwr gyfarwyddwr Snowdonia Hospitality & Leisure Limited, Gareth Jones, rheolwr gyfarwyddwr UK Leisure Living, Caroline Roberts, Penderyn, Emiko Corney, llysgennad twristiaeth Japan ar gyfer Gogledd Cymru.
Bydd y digwyddiadau’n parhau gyda gweminar Zoom ar ‘Gynaliadwyedd’, ddydd Mercher, Hydref 19eg o 10.30am i 12.30pm a gynhelir gan Frankie Hobro, perchennog a chyfarwyddwr Sŵ Môr a Chanolfan Adnoddau Morol Môn, yng nghwmni Paul Conroy o Byway.
Yn nes ymlaen yr un diwrnod, o 2pm i 4pm, bydd Green Key, label-eco gwirfoddol rhyngwladol sydd wedi ei ddatblygu’n benodol ar gyfer y sector twristiaeth, yn cynnal digwyddiad ‘Agenda Werdd’ yn y Quay Hotel & Spa, Deganwy. Bydd y digwyddiad hwn yn amlygu sut y gall achrediad Green Key fod o fudd i fusnesau ac i Gymru fel cyrchfan cynaliadwy.
Bydd Adventure Parc Snowdonia, Dolgarrog yn cynnal dau weithdy ddydd Gwener, Hydref 21ain. ‘Cael cwsmeriaid i’ch helpu i gyrraedd eich nodau cynaliadwyedd’ fydd pwnc trafod y bore gan Denise Hampson, ymgynghorydd fydd yn cynghori ar sut y gall cwsmeriaid helpu busnes i ddod yn fwy cyfeillgar i’r blaned.
Yn y prynhawn, bydd Laura Gainor, ymgynghorydd brandio i gyflogwyr, yn rhannu’r egwyddorion allweddol ar gyfer ‘Denu talent i’ch busnes’. Gyda thwristiaeth a lletygarwch yn wynebu prinder gweithlu, bydd yn cynghori busnesau ar sut i sefyll allan fel lle ardderchog i weithio ynddo.
‘Arloesi Cynaliadwy: Dylunio ar gyfer pobl, y blaned AC elw’ fydd pwnc trafod gweminar Zoom ddydd Llun, Hydref 24, o 2pm i 4pm. Bydd y gwestai Chris Bellamy, arbenigwr dylunio a strategaeth gynaliadwy, yn egluro sut y gall twf busnes fod o fudd i’r amgylchedd a chymdeithas.
Bydd yr ysgrifennydd copi creadigol Carla Hawkins yn cynnal gweminar Zoom dan y teitl ‘Sut i ysgrifennu copi ardderchog’, ddydd Mercher, Hydref 26, o 6pm i 7.30pm. Bydd yn datgelu sut y gall ysgrifennu copi wneud i fusnesau sefyll allan trwy wneud i’w hysbysebu a’u sianeli cyfryngau weithio’n galetach.
Bydd yr ymgynghorydd hyfforddiant Melanie Cash yn rhoi dosbarth meistr ar ‘Ddatblygu sgiliau gwasanaeth cwsmer ardderchog’ yn ngwesty’r Imperial Hotel, Llandudno ddydd Iau, Hydref 27, o 10am i 1pm.
Bydd y gyfres yn cloi gyda dau ddigwyddiad yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Llun, Hydref 31. Bydd digwyddiad y bore gyda’r Ditectif Uwcharolygydd Paul Peters, cyfarwyddwr y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru, yn canolbwyntio ar ‘Ddiogelwch Seiber’, gan amlygu rhai camau syml i ddiogelu rhag y bygythiad o seiberdroseddu.
Pwnc trafod y prynhawn fydd ‘Sut fydd eich busnes yn elwa o’r platfform Tourism Xchange Great Britain?’ Mae’r gyfnewidfa un-stop digidol yma’n galluogi busnesau i reoli argaeledd, prisio ac archebion yn fyw, ac ar draws nifer o ddosbarthwyr.
Dywedodd Gary Jones, Rheolwr Prosiect yr Hwb Arloesi Twristiaeth yn Busnes@llandrillomenai: “Mae’r sector twristiaeth wedi profi ei hun i fod yn arloesol ac yn wydn wrth wynebu heriau parhaus eleni ac mae’r pythefnos cyffrous a llawn egni hwn o ddigwyddiadau wedi’i anelu at barhau i gefnogi’r sector gyda’r wybodaeth a’r offer i addasu i heriau’r presennol a’r dyfodol.”