Y daith i carbon sero
Mae un o reilffyrdd stêm hynaf y byd ymysg cwmnïau yng Ngwynedd sydd wedi manteisio ar brosiect sydd wedi ei gynllunio i helpu busnesau bach leihau eu hallyriadau carbon.
Diolch i’r Academi Ddigidol Werdd, sy’n cael ei rhedeg gan Busnes@LlandrillioMenai, mae Rheilffordd Talyllyn ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o sero net erbyn 2030. Wedi’i ariannu gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU, mae’r prosiect yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig ar draws Gwynedd a Môn i ddarparu mentora a chyngor i'w helpu nhw addasu a lleihau eu hôl troed carbon.
Ar ymweliad diweddar â’r atyniad poblogaidd, dywedodd Liz Savllie Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd: “Mae wedi bod yn braf treulio amser gyda Rheilffordd Talyllyn heddiw. Ac mae’n galonogol gweld sut mae’r Academi Ddigidol Werdd yn galluogi SMEs fel hyn i ddatblygu cynllun fforddiadwy ac ymarferol i’w helpu nhw i leihau allyriadau carbon ac anelu am sero net yn y pen draw.”
Ychwanegodd Liz Porrett, o’r rheilffordd: “Ers i mi ymuno â’r cwmni nol ym mis Mawrth rydym wedi bod yn adeiladu ar y camau cadarnhaol roedd y rheilffordd eisoes wedi'u cymryd i wella ôl troed carbon - gan gynnwys buddsoddi mewn paneli solar a cherbydau trydan. Ond fel gyda llawer o fusnesau tebyg, unwaith mae’r buddsoddiad cychwynnol wedi’i wneud, mae’n dod yn fwy anodd gwybod ble i ganolbwyntio ymdrech a gwariant er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
"Fel cwmni roedden ni’n falch iawn o allu derbyn cymorth trwy Academi Ddigidol Werdd. Yn ymarferol roedd hyn yn golygu gweithio gydag arbenigwr oedd yn edrych ar ein hallyriadau carbon, gan gynnwys ar gyfer ein cadwyn gyflenwi. Byddwn yn parhau rŵan i weithio gyda’r tîm Digidol Gwyrdd i symud ymlaen tuag at ein nod o gyrraedd sero net.”
Mae Busnes@LlandrilloMenai yn rhan o Grŵp Llandrillo Menai, ac yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth sydd wedi ei dargedu’n benodol at fusnesau. Trwy’r prosiect hwn y nod yw helpu perchnogion busnes i ddeall sero net ac i gymryd camau i ateb y galw cynyddol am gynnyrch a gwasanaethau ecogyfeillgar.
Julie Stokes Jones yw Swyddog Datblygu Busnes y Prosiect. Dywedodd: “Mae’n wych gweld y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol ar fusnesau lleol ac rwy’n falch bod Rheilffordd Talyllyn eisoes yn elwa o’r gefnogaeth. Y gobaith yw y bydd yr Academi Ddigidol Werdd hefyd yn arwain at gynnydd mewn elw i fusnesau trwy leihau costau cynhyrchu a gwella effeithlonrwydd.”
Gydag ychydig o lefydd ar ôl ar y cynllun, gall busnesau bach yng Ngwynedd ac Ynys Môn barhau i gymryd rhan yn yr Academi Ddigidol Werdd. Mae’r rhai sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn cael eu hannog i gysylltu â Busnes@LlandrillioMenai i gofrestru eu diddordeb.