Cyfle i fusnesau Gogledd Cymru i ymuno â rhaglen sero net £1.4 miliwn

Mae menter wedi’i lansio i gefnogi busnesau micro, bach a chanolig yng Ngogledd Cymru i wireddu manteision gwella sgiliau a chreu cynlluniau digidol a sero net.

Mae’r Academi Ddigidol Werdd yn gynllun gan Busnes@LlandrilloMenai bellach yn ei ail flwyddyn, a chyda cronfa fwy y tro hwn, mae disgwyl iddo gael hyd yn oed mwy o effaith gyda chyllid a chymorth ar gael i hyd at 175 o gwmnïau. Yn dilyn gwneud cais llwyddiannus am £1.4 miliwn o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, bydd y rhaglen yn darparu mentora a chymorth i fusnesau bach a chanolig i ddatblygu cynllun datgarboneiddio a chael mynediad at arian cyfalaf.

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn rhan o Grŵp Llandrillo Menai ac yn darparu hyfforddiant a chymorth i fusnesau yn y gogledd. Bydd y prosiect yn helpu perchnogion i gymryd camau i ateb galw cynyddol gan gwsmeriaid am wasanaethau ecogyfeillgar. Rhan bwysig o’r nod yw cynyddu elw trwy leihau costau cynhyrchu a gwella effeithlonrwydd y busnesau sy'n cymryd rhan.

Donna Hodgson, yw Rheolwr Prosiect Rhanbarthol Busnes@LlandrilloMenai. Mae’n gyfrifol am yr Academi Ddigidol Werdd, meddai: “Mae cyfleoedd contractio a thendro yn gynyddol yn gofyn am bolisïau lleihau carbon a thystiolaeth o arferion gwyrdd, ond yn aml mae’n anodd i fusnesau wybod ble i ddechrau. Mae lleihau allyriadau carbon a sicrhau hyfywedd masnachol yn her i lawer. Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio felly, i helpu busnesau i flaenoriaethu a deall yr hyn sydd orau iddyn nhw, i edrych am yr atebion yn ogystal â derbyn cymorth ariannol.

“Rydw i eisiau annog busnesau SME mewn unrhyw sector i gysylltu â ni os oes ganddynt ddiddordeb mewn gweithio gyda’r Academi Ddigidol Werdd. Mae’r rhaglen wedi’i hariannu’n llawn, a gyda’n cymorth ni mae modd cael cyngor arbenigol a chyllid i’w rhoi ar y trywydd iawn er mwyn cynllunio i leihau carbon mewn ffordd sydd o fudd i’r busnes a’r amgylchedd.”

Gethin Jones yw Cyfarwyddwr Gweithredu Mona Lifting, un o'r busnesau cyntaf i ymuno â'r Academi Ddigidol Werdd, dywedodd: "Yr her i ni yw parhau i fod yn fasnachol tra’n lleihau allyriadau carbon. Mae cymryd rhan yn yr Academi Ddigidol Werdd wedi gadael i ni wneud hyn a helpu ni i ddysgu pa rannau o'r busnes mae angen i ni ganolbwyntio arnynt i gyrraedd sero net. Mae'r gefnogaeth trwy’r cynllun wedi golygu ein bod wedi gallu canolbwyntio ar ein cwsmeriaid gan wybod bod arbenigwyr yn edrych ar sut y gallwn leihau ein ôl troed carbon. Fyddwn i ddim yn oedi rhag annog busnes i fynd amdani."

Dylai busnesau yn siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn gysylltu â Busnes@LlandrilloMenai am fwy o wybodaeth ac i gofrestru. Mae galw eisoes yn uchel felly’r neges glir yw i beidio ag oedi rhag cysylltu er mwyn cymryd rhan.

Am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen Academi Ddigidol Werdd.

Y Wasg / Y Cyfryngau

Os oes gennych ymholiad ar ran y wasg neu'r cyfryngau, cysylltwch â