Sut mae CIST yn helpu pobl a busnesau ledled Gogledd Cymru

Mae'r Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) yn Llangefni yn grymuso busnesau i esblygu ac unigolion i wella eu rhagolygon gyrfa

Mae pobl a busnesau ledled Gogledd Cymru wedi elwa o hyfforddiant a ddarparwyd gan y Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg.

Mae CIST yn Llangefni, sy'n cael ei gynnal gan Busnes@LlandrilloMenai, yn darparu hyfforddiant arbenigol a chymwysterau achrededig mewn Adeiladu, Peirianneg Sifil, Lleihau Carbon ac Ôl-osod. Edrychwch ar y rhestr lawn o gyrsiau a gynigir gan CIST.

Mae'n arbenigo mewn hyfforddiant achrededig ar gyfer y sector adeiladu, gan ganiatáu i gwmnïau bach ddatblygu a thyfu mewn marchnad sy'n newid. Mae llawer o'r cyrsiau wedi'u hariannu'n llawn, trwy gynlluniau fel y Cyfrif Dysgu Personol, sy'n grymuso pobl i uwchsgilio a gwella rhagolygon eu gyrfa.

Cafodd Paul Carter, o'r cwmni plymio a gwresogi Get Carter UK 365, hyfforddiant mewn technolegau pwmp gwres a phaneli solar, effeithlonrwydd ynni a rheoliadau dŵr drwy CIST.

Dywedodd: “Mae’r sgiliau newydd rydyn ni’n eu dysgu drwy’r prosiect yn ein helpu ni i gadw’n gyfredol ac maen nhw hefyd yn golygu y gallwn ni esblygu fel busnes. Mae'r cyrsiau wedi ein helpu i adeiladu ein gallu fel cwmni a chynnig y gwasanaethau ynni adnewyddadwy y mae ein cwsmeriaid yn gofyn amdanynt fwyfwy.”

Mynychodd Steven Safhill-Jones hyfforddiant mewn ynni solar, tendro a phympiau gwres o'r aer i'w gwmni, Safhill-Jones Plumbing and Heating. Mae'n dweud bod uwchsgilio hefyd wedi ei helpu i gynghori cwsmeriaid ynghylch atebion mwy ynni effeithlon a mwy gwyrdd.

Eglurodd: “Dw i mewn sefyllfa nawr i helpu i newid meddyliau cwsmeriaid a gwella eu dealltwriaeth o sut y gallant wneud i’w cartrefi weithio’n well iddyn nhw. Yn bwysig, mae'r prosiect hefyd wedi fy helpu i adeiladu rhwydwaith o bobl sy'n gweithio yn yr un maes â mi.”

Gall Kate Robinson, sy'n rhedeg cwmni Robinson Electrical, osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan nawr diolch i'w hyfforddiant trwy CIST, ac mae wedi ennill sgiliau mewn gosod a chynnal a chadw paneli solar a batris storio hefyd.

Dywedodd: “Mae hyn yn caniatáu i ni ehangu ar y gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig, ac yn golygu y gallwn gynghori cwsmeriaid ar sut i storio ynni ac arbed mwy.”

Mae'r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn cynnig hyfforddiant a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru, i bobl sy'n ennill llai na £32,371, neu y mae eu swyddi mewn perygl.

O sgiliau digidol i gymwysterau amgylcheddol, mae'r cyfleoedd yn ddi-ben-draw. Cymhwysodd Francesca Giacomet fel peiriannydd nwy drwy fanteisio ar Gyfrif Dysgu Personol, a dywedodd: “Dw i wedi cwblhau fy Nghwrs Diogelwch Nwy a dw i bellach yn beiriannydd nwy cymwysedig.

“Dw i'n gweithio yn gosod tanau nwy i Debrett Fires a dw i'n mwynhau hynny'n fawr iawn. Dw i'n falch iawn ohonof fy hun am gyflawni fy nghymhwyster. Dw i wedi dod o hyd i frwdfrydedd newydd tuag at fy swydd, ac i goroni'r cwbl dw i'n ennill mwy o gyflog oherwydd bod gen i'r cymhwyster.”

Dywedodd Gareth Hughes, Rheolwr Canolfan CIST: “Rydym ni'n gweld galw gwirioneddol am sgiliau mewn datgarboneiddio a sgiliau gwyrdd yng Nghanolfan CIST yn Llangefni. Mae cyllid Cyfrif Dysgu Personol yn rhoi cyfle i unigolion ddatblygu'r sgiliau hyn nawr, trwy hyfforddiant ymarferol a arweinir gan y diwydiant ac sy'n cael ei ariannu'n llawn.”

Pagination