Dathlu busnesau lleol wrth iddyn nhw anelu at carbon sero

Yr wythnos diwethaf cynhaliwyd ein digwyddiad Dyfodol Digidol Gwyrdd yn Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai. Roedd yn wych croesawu cydweithwyr, partneriaid a busnesau lleol i ddathlu ein prosiect Academi Ddigidol Werdd.

Roedd yn gyfle arbennig i glywed gan y busnesau oedd wedi bod yn rhan o'r prosiect - trwy rannu eu profiadau a’r gefnogaeth roddwyd iddynt i leihau allyriadau carbon.

Mae Academi Ddigidol Werdd bellach wedi gweithio gyda 54 o fusnesau ar draws Gwynedd a Môn, trwy fentora a chynnig cyngor arbenigol ar addasu a lleihau ôl troed carbon. Wedi’i ariannu gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU, mae’r prosiect wedi cefnogi busnesau i wneud y gorau o dechnoleg newydd er mwyn lleihau eu heffaith ar yr hinsawdd.

Bethan Williams oedd yn hwyluso’r digwyddiad ac roedd ein siaradwyr yn cynnwys Dr Paul Bevan, Cyfarwyddwr Bunses@LlandrilloMenai; Stu Meades, Rheolwr Gyfarwyddwr Greener Edge Ltd a phrif ymgynghorydd y prosiect; Ian Wright o Outdoor Alternative a Rhys Anwyl Williams o Rhiw Goch, dau o’r busnesau i gymryd rhan yn y cynllun.

Ein prif siaradwr oedd y cyflwynydd tywydd ac arbenigwr hinsawdd, Steffan Griffiths. Siaradodd am yr argyfwng hinsawdd a’r rôl sydd gan pawb i’w chwarae wrth i ni fynd i’r afael â’r heriau.

Roedd ein arddangosfa offer ynni adnewyddadwy yn rhan o’r digwyddiad hefyd - cyfle i fynychwyr ddysgu mwy am fanteision y dechnoleg ddiweddaraf.

I ddarganfod mwy am y busnesau a gymerodd ran a’r Academi Ddigidol Werdd, ewch i’n gwefan, neu cysylltwch â ni green.digital@gllm.ac.uk / 08445 460 460