Prentisiaeth mewn Gweithrediadau Prosesu Polymer

Yn ddiweddar, dathlodd grŵp o brentisiaid o REHAU Ltd eu bod wedi cwblhau eu Prentisiaeth mewn Gweithrediadau Prosesu Polymer yng Nghanolfan CIST, Grŵp Llandrillo Menai, gan lwyddo i oresgyn yr heriau a achoswyd gan Covid-19.

Roedd Christopher McPhail, Swyddog Hyfforddi yn REHAU Ltd wrth ei fodd gyda'u cyflawniadau. Meddai:

"Gweithiodd Dyfed, David a Celfyn yn eithriadol o galed dros y 18 mis diwethaf i ennill y cymhwyster. Roedd hyn yn cynnwys creu portffolios technegol a oedd wedyn yn cael eu hasesu yn erbyn safonau cenedlaethol y diwydiant.

"Gan fod REHAU yn ehangu mor gyflym wedi'r cyfnodau clo, mae angen mawr am ragor o sgiliau ar y llinellau cynhyrchu. Erbyn hyn mae'r tri wedi cael swyddi Gweithredwyr Cynhyrchu llawn amser gyda’r cwmni."

Ychwanegodd Glenn Williams, Swyddog Datblygu yng Ngrŵp Llandrillo Menai:

"Mae'r cwrs hwn wedi dwyn ffrwyth am ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r diwydiant i'w ddarparu a'i asesu. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n holl bartneriaid am eu cydweithrediad yn ystod pandemig Covid-19. Diolch iddyn nhw mae'r criw cyntaf o ymgeiswyr yng Nghymru i gyd wedi sicrhau'r Ddiploma mewn Prosesu Polymer."

Mae'r Brentisiaeth mewn Gweithrediadau Prosesu Polymer yn gymhwyster newydd ac mae'n addas i unigolion sy'n gweithio gyda phrosesau allwthio plastig mewn cwmnïau cynhyrchu plastig. Os credwch y gallai'r Brentisiaeth fod o fudd i'ch cwmni, ffoniwch 08445 460 460 i ofyn am Steve Adams neu anfonwch neges e-bost at s.adams@gllm.ac.uk

Y Wasg / Y Cyfryngau

Os oes gennych ymholiad ar ran y wasg neu'r cyfryngau, cysylltwch â