Academi Ddigidol Werdd
Academi Ddigidol Werdd, yn cefnogi busnesau i datblygu technoleg digidol a lleihau carbon.
Mae'r Academi Ddigidol Werdd yma i helpu busnesau sy'n gweld gwerth mewn defnyddio technoleg ddigidol newydd, cyflymu effeithlonrwydd, lleihau allyriadau carbon a lleihau costau. Gan weithio gyda mentor, gallwn eich helpu i werthuso eich sefyllfa bresennol, dadansoddi eich busnes, a datblygu cynllun i gael hyfforddiant a chyllid i'ch cefnogi i leihau eich ôl troed carbon.
- Ydych chi'n fusnes micro, bach neu ganolig wedi'i leoli yn siroedd Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych neu'r Fflint?
- Hoffech chi fod yn fwy gwyrdd a lleihau eich ôl troed carbon?
Yna mae'r Academi Ddigidol Werdd yma i'ch helpu chi i wneud y newidiadau sydd eu hangen.
Pwy all fod yn rhan o'r prosiect?
Rhaid bod yn fusnes bach neu ganolig sydd wedi'i gofrestru yn siroedd Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych neu'r Fflint.
Pam ddylech chi ymuno â'r Academi Ddigidol Werdd?
Bydd y prosiect yn gweithio gyda chi i fynd â'ch busnes ar daith arloesol a fydd yn eich helpu i:
Ennill mantais gystadleuol a rhoi hwb i'ch enw da fel busnes gwyrdd
Deall eich blaenoriaethau digidol a sero net a pha gamau i'w cymryd
Addasu'n gyflym i'r cynnydd yn rheoliadau sero net y llywodraeth a'r pwysau gan gontractwyr
Ehangu eich busnes drwy ddatblygu datrysiadau arloesol newydd i ymuno â'r cynnydd yn y farchnad 'sero net'
Diwallu'r cynnydd mewn galwadau gan gwsmeriaid am gynnyrch a gwasanaethau ecogyfeillgar
Cynyddu elw, torri costau cynhyrchu a chanfod mesurau sy'n arbed ynni
Gwella eich sefyllfa yn y gadwyn gyflenwi drwy gynnwys cynaliadwyedd yn eich prosesau caffael
Beth fyddwch chi'n ei gael?
Drwy'r
prosiect byddwch yn gallu cael mynediad at gefnogaeth ymgynghorol, a
ariennir yn llawn, gan fentor arbenigol a fydd yn gweithio gyda chi i
werthuso ble mae eich busnes chi heddiw.
Bydd yn eich helpu i gynnal asesiad diagnostig sero net o allbwn carbon eich busnes a'ch gweithwyr, gan gynnwys teithio mewn car, defnyddio ynni, gwaredu gwastraff a defnyddio deunyddiau, yn ogystal ag asesiad manwl o alluoedd digidol. Bydd hyn yn arwain at adroddiad unigol a map pwrpasol ar gyfer eich busnes.
Yna bydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun a fydd yn eich helpu i gael cyllid a hyfforddiant i ymgysylltu'n llwyddiannus â thechnoleg ddigidol a'i defnyddio i leihau eich ôl troed carbon, ac i gefnogi'r gwaith o gyflwyno map ar gyfer eich busnes.
I gael rhagor o wybodaeth
Llenwch y ffurflen isod, neu cysylltwch â'r Academi Ddigidol Werdd ar:
- digidolgwyrdd@gllm.ac.uk
- 08445 460 460
Ariennir y prosiect hwn £1.4 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy