Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyrsiau Gweinyddu Meddygol

Ydych chi'n awyddus i ddechrau gyrfa ym maes gweinyddu meddygol?

Ydych chi'n gweithio yn y sector gofal iechyd ac eisiau datblygu eich sgiliau?

Ar ein campws yn Abergele mae gennym ni amrywiaeth o gyrsiau gweinyddu meddygol rhan-amser ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn y sector cyffrous hwn.

Gallwch astudio un diwrnod yr wythnos am ddwy flynedd i ennill y cymhwyster Gweinyddu Meddygol llawn ar Lefel 2 neu Lefel 3. Neu gallwch astudio modiwlau unigol, gan gynnwys:

Sgiliau Gweinyddu Meddygol, Lefel 2 a Lefel 3
Mae'r cymwysterau hyn i bobl sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfa ym maes Gweinyddu Meddygol. Byddwch yn elwa ar ddysgu amrywiaeth o sgiliau defnyddiol ar gyfer gweithio mewn swyddfa a chyflawni tasgau gweinyddol mewn amgylchedd meddygol.

Sgiliau Cyfathrebu Meddygol, Lefel 2 a Lefel 3
Bwriad yr uned hon yw eich galluogi i feithrin gwybodaeth a sgiliau er mwyn cyfathrebu'n briodol ag ystod eang o bobl mewn amgylchedd meddygol.

Terminoleg Feddygol ar gyfer Gweinyddwyr, Lefel 2 a 3
Bwriad y cwrs yw dysgu hanfodion terminoleg feddygol i chi fel eich bod deall, yn adnabod ac yn defnyddio'r termau'n gywir ynghyd a deall y corff dynol.

Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth, Lefel 2
Bwriad y cwrs yw eich galluogi i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau i allu cynhyrchu'n gywir y dogfennau proffesiynol sy'n gyffredin mewn amgylchedd meddygol.

I wybod rhagor...
E-bost at Cindy-Leigh Simons ar simons1c@gllm.ac.uk neu ffonio 01492 546 666.

Derbynfa mewn ysbyty