Sgiliau Byw'n Annibynnol

Yn y maes hwn, mae'r tri llwybr canlynol ar gael:

Sgiliau Bywyd a Gwaith

Ar y llwybr hwn, cefnogir pobl ifanc sydd ag amrywiaeth o anghenion cymhleth i feithrin sgiliau a fydd yn eu galluogi i weithio a/neu i fyw mewn tŷ gyda chymorth. Mae’r holl gyrsiau’n cynnig cyfleoedd gwaith gydag amrywiaeth o gyflogwyr, er enghraifft: Fferm Bodafon, Zip World, The Rabbit Hole, Hosbis Dewi Sant, Parc Eirias a Premier Inn.

Sylfaen

Ar y llwybr hwn, cefnogir pobl ifanc er mwyn iddynt fynd ymlaen i ddilyn cyrsiau uwch. Mae hyn yn cynnwys mynd ymlaen yn syth i ddarpariaeth prif ffrwd neu swydd (cyflogaeth gyda chefnogaeth neu brentisiaeth) neu i ddilyn rhaglen ymgysylltu/hyfforddeiaeth. Caiff dysgwyr Sylfaen gyfle i gael profiad gwaith, yn y gymuned ac mewn amgylcheddau gwaith real yn y Coleg. Cânt hefyd fynd ar sesiynau rhagflas i feysydd rhaglen eraill ar gampysau perthnasol

Dod yn Fwy Annibynnol

Ar y llwybr hwn, cefnogir pobl ifanc sydd ag amrywiaeth o anghenion cymhleth ac sydd am feithrin y sgiliau a fydd yn eu galluogi i wneud dewisiadau annibynnol ⁠fel oedolion. Ar y campws Llandrilloyn- Rhos, rydym yn defnyddio ystafell synhwyraidd bwrpasol i rai sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog.