Cyrsiau Rhan-amser Am Ddim
‘Potensial' yw enw ein darpariaeth dysgu gydol oes – cyrsiau am ddim sy'n digwydd yn eich cymuned.
Mae ein cyrsiau rhan-amser i oedolion, sydd ar gael am ddim, yn ddelfrydol os ydych chi eisiau dysgu rhywbeth newydd, dechrau hobi newydd neu wella eich cyflogadwyedd. Nid yw'r cyrsiau hyn yn gofyn am brofiad blaenorol – ac maent yn cwmpasu ystod eang o feysydd gan gynnwys celf, cyfrifiadura, Saesneg a mathemateg, llesiant a mwy.
Drwy ‘Potensial’ gallwch chi gael mynediad at gyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol, sy'n cael eu cyflwyno'n ddwyieithog lle bynnag y bo modd ac sy'n hygyrch i bob dysgwr.
Caiff cyrsiau eu cynnal ar gampysau ac mewn lleoliadau cymunedol, fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymuned, ledled Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn.
Dyma gyfle i chi ddysgu mewn amgylchedd cyfeillgar lle gallwch chi ddatblygu sgiliau newydd, meithrin eich hyder ac efallai gwneud rhai ffrindiau ar hyd y ffordd!
Beth bynnag fo'ch oedran, ble bynnag rydych chi'n byw, beth bynnag fo'ch diddordebau neu'ch rhesymau dros fod eisiau datblygu sgiliau newydd neu ddysgu rhagor - gallwn ni eich helpu i wireddu eich ‘Potensial’ llawn.
Cyrsiau Rhan Amser - Ynys Môn a Gwynedd: Ionawr 2025
Dysgwch am ein hystod eang o gyrsiau sy'n dechrau ym mis Ionawr 2025.
Cyrsiau Rhan Amser - Siroedd Conwy a Dinbych: Ionawr 2025
Dysgwch am ein hystod eang o gyrsiau sy'n dechrau ym mis Ionawr 2025.
Prosbectws Ar-lein – Cyrsiau Rhan-amser, Cyrsiau i Oedolion a Chyrsiau yn y Gymuned
Gyda'n prosbectws ar-lein gallwch chwilio am amrywiaeth eang o gyrsiau rhan-amser, cyrsiau i oedolion a chyrsiau yn y gymuned ac archebu lle arnynt.
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Siroedd Dinbych a Chonwy
Oes gennych chi awydd astudio i feithrin sgiliau newydd, ennill cymwysterau neu ddilyn diddordeb?
Gallwch ymweld â Phartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Conwy a Sir Ddinbych i ddarganfod mwy.
Partneriaeth Dysgu Cymunedol Gwynedd a Môn
Oes gennych chi awydd astudio i feithrin sgiliau newydd, ennill cymwysterau neu ddilyn diddordeb?
Ewch i wefan Partneriaeth Addysg Gymunedol Gwynedd a Môn i gael gwybod rhagor.
A oes arnoch angen mwy o wybodaeth neu efo cwestiwn?
Mae timau Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg yma i'ch helpu gydag unrhyw gwestiynau. Gallwch anfon neges e-bost, ffonio neu alw heibio un o'n campysau, neu ddod i un o'n digwyddiadau agored.
Beth bynnag yw eich nod, rydym yn sicr o gael cwrs i chi!
Dewch o hyd i gwrs yn eich ardal chi
I ddarganfod pa gyrsiau rhan-amser sydd ar gael yn eich ardal chi, rhowch eich cod post yn y blwch chwilio isod. Yna, cliciwch ar y map i weld rhestr lawn o gyrsiau yn eich canolfan leol.
Sylwer: Mesurir pellteroedd mewn llinell syth ac efallai nad ydynt yn adlewyrchu pellter teithio ar y ffordd.