Gwaith Caled yn Arwain at Lwyddiant

Mae tîm o Brentisiaid proffesiynol o Archwilio Cymru yn gobeithio y bydd gwaith caled yn arwain at lwyddiant yng nghystadleuaeth Technegydd Cyfrifyddu WorldSkills yng Ngholeg Barking a Dagenham ar 16-18 Tachwedd 2022.

Nid yw'r cystadleuwyr Eleri Davies, Catrin Round a Daron Jones yn ddiarth i gystadlu wedi ennill Medal Aur yng Nghystadleuaeth Cyfrifyddu Sgiliau Cymru'r flwyddyn ddiwethaf. Wedi eu cyflogi gan eu cyflogwr Archwilio Cymru maent i gyd yn Archwilwyr Ariannol Prentisiaeth sydd yn astudio ar gyfer eu lefel 4 gyda Chymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu gyda Busnes@LlandrilloMenai.

I fynd ymlaen i WorldSkills aeth y tîm drwy broses gymhwyso heriol yn ymwneud gyda phrofion unigol a grŵp, maent yn un o chwe thîm ledled y Deyrnas Unedig a gyrhaeddodd y gofynion.

Meddai Daron Jones: "Mae hwn yn gyfle cyffrous. Gorwedd ein cryfder fel tîm yn y ffaith ein bod yn hyfforddi gyda'n gilydd ac wrth gydweithio rydym yn llwyddo i ddatrys tasgau, rhannu'r gwaith yn ôl ein cryfderau personol".

Dywedodd Yvonne Tomas, Rheolwr Archwilio, Archwilio Cymru:

"Rydym i gyd yn eithriadol o falch o Eleri, Catrin a Daron a'r hyn a gyflawnwyd ganddynt yn barod. Llwyddodd gwaith caled ennill lle iddynt y cam hwn o'r gystadleuaeth ac maent wedi gwneud llawer o baratoi gyda Busnes@Llandrillo Menai. Mae Archwilio Cymru yn credu mewn darparu hyfforddiant o ansawdd a chyfleoedd ar gyfer ein hyfforddeion ac rydym wedi bod wrth ein boddau i weld y bobl hyn yn llwyddo. "

Gan siarad ar ran Busnes@LlandrilloMenai dywedodd Paul Bevan, Uwch Gyfarwyddwr – Datblygiadau Masnachol:

"Rwy'n siarad ar ran pawb yn Busnes@LlandrilloMenai pan ddywedaf pa mor falch ydym o lwyddiant Tîm Cyfrifyddu Archwilio Cymru. Mae hwn yn esiampl gwych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fo pobl ifanc a darparwyr hyfforddiant fel Busnes@LlandrilloMenai yn dod at ei gilydd i ffurfio partneriaeth lwyddiannus a darparu hyfforddiant ardderchog yn y gweithle. Nid yn unig gwnaeth y bobl ifanc weithio'n eithriadol o galed, mae'r tîm AAT wedi mynd yr ail filltir i helpu hyfforddi a'u paratoi ar gyfer y gystadleuaeth heriol hon."

Mae Archwilio Cymru yn falch iawn o gynnig prentisiaethau cyffrous, gan gynnwys Prentisiaeth Archwilio Ariannol, ac yn gweld y rhain fel llwybrau eraill dilys i astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol.

Mae Archwilio Cymru yn croesawu'r amrywiaeth y mae'r prentisiaethau yn eu darparu ac rydym yn falch o gynnig cyfleoedd Prentisiaeth ac i raddedigion ar gyfer y rhai sydd yn ceisio astudio ar gyfer cyfleusterau proffesiynol. "

Mae Archwilio Cymru yn werthfawrogol iawn o ddarparwyr hyfforddiant megis Busnes@LlandrilloMenai ar gyfer eu cefnogaeth i'w rhaglenni prentisiaeth ac am y gefnogaeth a ddarparwyd i Eleri, Catrin a Daron. Byddant wrthi ar 16-18 Tachwedd yng Ngholeg Barking a Dagenham. Maent yn wynebu timau o Lloyds Banking Group, BAE Systems, a Moore UK.

Cyhoeddir yr enillwyr ar brynhawn Tachwedd 25 ar-lein gan Steph McGovern o BBC Breakfast a Steph's Packed Lunch Channel 4.