Prentis sy’n gyfrifydd medal aur am i'w gyrfa wneud gwahaniaeth

Mae Eleri Davies yn prentis AAT gyda Busnes@LlandrilloMenai, yn gyfrifydd medal aur, ac mae’n benderfynol o wneud gwahaniaeth yn ei gyrfa sy'n cael ei mireinio drwy ddefnyddio prentisiaethau.

Cwblhaodd Eleri, sy'n 26 oed ac yn byw yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, ei holl brentisiaethau cyfrifyddu tra'n gweithio i Archwilio Cymru.

Nawr mae hi'n parhau â'i thaith ddysgu drwy geisio dod yn Gyfrifydd Siartredig yn ei swydd newydd gyda Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru, Barcud.

Mae Eleri bellach wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 ar gyfer rownd derfynol Prentis y Flwyddyn.

Mae'r gwobrau, sy'n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a'u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr yw EAL.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae'r gwobrau'n tynnu sylw at lwyddiannau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae prentisiaethau wedi helpu Eleri i gael ei gyrfa yn ôl ar y trywydd iawn ar ôl i salwch ei gorfodi i roi'r gorau i'w chwrs Gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Economeg Llundain yn 2017.

Cwblhaodd Dystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 mewn Cyfrifeg, ac yna Diploma Uwch AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg a Phrentisiaeth Uwch mewn Cyfrifeg trwy Grŵp Llandrillo Menai. Cwblhawyd yr holl brentisiaethau gyda rhagoriaeth.

Nawr mae hi wedi ymrwymo i dair blynedd arall o ddysgu trwy geisio dod yn Gyfrifydd Siartredig.

Yn ystod ei chyfnod yn gweithio i Archwilio Cymru, enillodd Eleri fedal aur cyfrifyddu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru fel rhan o dîm Grŵp Llandrillo Menai a gafodd ganmoliaeth uchel yn rownd derfynol WorldSkills UK.

Y llynedd, cafodd ei henwi'n Brentis y Flwyddyn a Phrentis Cyfrifeg y Flwyddyn gan Grŵp Llandrillo Menai.

Bu'r prentisiaethau o gymorth iddi ddatblygu ei rôl yn Archwilio Cymru lle bu'n cynnal archwiliadau gyda chleientiaid yn y sector cyhoeddus, yn aml drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn arbenigo mewn dadansoddi datganiadau ariannol a nodi anghysondebau.

"Dydw i ddim yn teimlo fy mod i wedi colli allan o beidio â gwneud gradd oherwydd bod ansawdd y prentisiaethau AAT mor uchel, ac rwy' hefyd wedi ennill cyflog wrth ddysgu," meddai.

"Rwy' eisiau i'm gyrfa wneud gwahaniaeth. Mae cyfrifyddeg yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn y sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol oherwydd ei fod yn rhan annatod o bopeth y mae busnes neu sefydliad yn ei wneud. Fy ngwaith i yw gwneud cyllid yn ddigon syml i bawb ei ddeall."

Dywedodd Yvonne Thomas, rheolwr archwilio o Archwilio Cymru: "Mae Eleri yn ymroddedig, yn frwdfrydig, yn gweithio'n galed ac yn esiampl o'r gwerth y gall prentis ei gynnig i sefydliad."

Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Eleri a'r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.

"Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o'n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a'u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy'n dymuno pob lwc i bob un o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol - ar gyfer y gwobrau a'u hymdrechion yn y dyfodol."

Wrth longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: "Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a'r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni. Mae prentisiaethau'n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol trwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion y diwydiant, sy'n newid yn gyson. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae nodi llwyddiannau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol ar gyfer hyn."

Y Wasg / Y Cyfryngau

Os oes gennych ymholiad ar ran y wasg neu'r cyfryngau, cysylltwch â