Seren Rygbi Ryngwladol am fod yn Fydwraig!

Mae chwaraewraig rygbi ryngwladol, sydd hefyd yn adnabyddus am hyfforddi cŵn defaid, wedi cofrestru ar gwrs dwys ... ei cham cyntaf i wireddu ei breuddwyd o fod yn fydwraig!

Dechreuodd Gwenllian Pyrs sy'n 23 oed ac yn dod o Ysbyty Ifan, ger Betws-y-Coed, ar gwrs Mynediad i Addysg Uwch ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos. Wedi cwblhau'r cwrs, bwriada fynd i brifysgol i ddilyn cwrs bydwreigiaeth.

Ganwyd Gwenllian, sy'n bridio ac yn hyfforddi cŵn defaid ar fferm y teulu yn Nyffryn Conwy, ym Mangor a chwaraeodd ar lefel ryngwladol am y tro cyntaf i dîm merched Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched yn 2017, pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner yn erbyn yr Eidal.

Rŵan, bydd yn rhaid iddi jyglo rhwng chwarae rygbi, gweithio ar y ffermio, a dilyn ei chwrs coleg. Heb sôn am unrhyw beth arall, mae ei hamserlen hyfforddi rygbi yn neilltuol: teithia i Fanceinion ddwywaith yr wythnos i hyfforddi efo Siarcod Sale, hyffordda yn y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol yng Nghaerdydd deirgwaith yr wythnos, a chwblha sesiynau hyfforddiant personol/codi pwysau deirgwaith yr wythnos. Ond, fel y dywed Gwenllian, "does dim ots gennych yrru pellteroedd maith os ydych yn gwybod eich bod yn mynd i wisgo'r jyrsi goch ddiwedd yr wythnos".

Cafodd dawn Gwenllian ym maes rygbi ei meithrin gan ei thad, Eryl, a thrwy chwarae rygbi di-reol yn y caeau gyda'i naw brawd a chwaer.

O ran ei gyrfa'n chwarae rygbi, roedd yn hwyr yn dechrau. Er iddi chwarae gyda'i brodyr a'i chwiorydd ar y fferm a chadw'n heini drwy helpu ei thad, ni wnaeth ddechrau cymryd pethau fwy o ddifrif tan i Nant Conwy sefydlu tîm i ferched dan 18 oed chwe mlynedd yn ôl.

Mae'r rhaglen Mynediad i Addysg Uwch yn agor y drws i fynd ymlaen i brifysgol ac mae Coleg Llandrillo wedi bod yn cynnig y rhaglen hon ers bron i 30 mlynedd. Mae’n rhaglen hyblyg sydd wedi'i llunio ar gyfer oedolion nad ydynt wedi ennill llawer o gymwysterau yn yr ysgol ond sy'n dymuno paratoi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk