Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Hyfforddi a Pherfformio Chwaraeon

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn amser
  • Hyd:

    Amser-llawn: 2 flynedd NEU Rhan-amser: 4 blynedd. Hefyd ar gael fel modiwlau.

    Dydd Llun a dydd Mawrth, 9am - 5pm

  • Cod UCAS:
    CX6C
Cofrestrwch
×

Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Hyfforddi a Pherfformio Chwaraeon

Graddau (Addysg Uwch)

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Llandrillo-yn-Rhos

Rhan Amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Radd Sylfaen hon yn addas i ddysgwyr sydd am gael gyrfa ym maes chwaraeon sy'n amrywiol iawn ac yn cynnwys hyfforddi chwaraeon, perfformio chwaraeon, a'r diwydiant ffitrwydd.

Bwriad y Radd Sylfaen yw datblygu eich dealltwriaeth o wyddor hyfforddi a pherfformio chwaraeon trwy ddadansoddi egwyddorion, cysyniadau a materion cyfoes a'u rhoi ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn. Wrth ddysgu am wahanol ddisgyblaethau, bydd myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth y gallant ei defnyddio mewn amrywiol sefyllfaoedd i'w helpu i wella eu hymgysylltiad â chwaraeon a'u perfformiad ar y maes chwarae.

Mae'r rhan yn cynnwys hyfforddi, ffisioleg, seicoleg, maetheg, cryfder a chyflyru, a datblygu athletaidd.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Twlcit Hyfforddi
  • Addysgeg Hyfforddi
  • Anatomeg Weithredol
  • Maeth a Pherfformiad ym maes Chwaraeon
  • Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio
  • Ffisioleg Ddynol a sut i'w Hasesu
  • Hanfodion Seicoleg Chwaraeon
  • Datblygu Hunaniaeth Broffesiynol

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Ymarfer Proffesiynol ym maes Chwaraeon
  • Dulliau Ymchwilio
  • Seicoleg Arweinyddiaeth Hyfforddi
  • Optimeiddio Perfformiad Dynol
  • Dadansoddi Perfformiad
  • Datblygu Athletwyr a Phobl Ifanc
  • Cryfder, Cyflyru ac Adferiad Cymhwysol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Mae graddau sylfaen yn addas i fyfyrwyr sydd ag ystod o alluoedd, gan gynnwys rhai nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol. Ni dderbynnir myfyriwr oni bai ei fod yn debygol o allu cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus a chael budd ohoni.

Derbynnir y rhai nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol ar sail y canlynol, ond nid ar sail y canlynol yn unig:

  • Datganiad personol neu CV, asesiad mewn cyfweliad, perfformiad mewn tasgau a osodwyd yn benodol i ddibenion derbyn, profiad gwaith perthnasol a thystlythyrau gan gyflogwyr.

Yn achos unigolion sydd â chymwysterau ffurfiol, mae'r canlynol yn dderbyniol:

  • O leiaf 64 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen. Os yw'r amserlen yn caniatáu gellir cynnig cyfleoedd i ailsefyll arholiadau TGAU.
  • Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU mewn Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, gradd C/4 neu gyfwerth
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys a nodir uchod fod wedi'u dysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg/Saesneg
  • Yn achos ymgeiswyr tramor sydd am ddechrau ar Lefel 4: IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr tramor sydd am ddechrau ar Lefel 5: IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5).

Yn achos lleoliadau allanol, rhaid cael gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Sesiynau ymarferol
  • Dysgu cydweithredol
  • Ymweliadau allanol
  • Lleoliadau Gwaith
  • Seminarau

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen

2 ddiwrnod yr wythnos (9am-4:30pm fel arfer)

  • Blwyddyn 1: Dydd Llun a dydd Mawrth
  • Blwyddyn 2: Dydd Iau a dydd Gwener

Yn nodweddiadol bydd pob modiwl 10 credyd yn cymryd tua 100 o oriau dysgu tybiannol, gyda thua 30% yn ddysgu wedi'i amserlennu a gweithgaredd dan arweiniad a 70% yn astudio annibynnol. Gall y dysgu wedi'i amserlennu amrywio fesul modiwl yn dibynnu ar y dull cyflwyno a gofynion cynnwys y pwnc a gall yr astudio annibynnol amrywio'n ôl datblygiad myfyrwyr unigol. Y canllaw i fyfyrwyr yw cynllunio ar gyfer 1200 o oriau dysgu tybiannol y flwyddyn, gyda thua 360 o oriau dysgu wedi’u hamserlennu (dros 30 wythnos fel arfer), sy'n cynnwys oriau ar yr amserlen, lleoliad gwaith, dysgu seiliedig ar gyflogadwyedd a gweithgaredd dan arweiniad, a thua 840 awr o oriau astudio annibynnol yn ystod y flwyddyn astudio.

Yn rhan o raglen y radd sylfaen bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag o leiaf 150 awr o brofiad gwaith ar lefel 4 a lefel 5 mewn sector galwedigaethol perthnasol.

Defnyddir y log oriau ac adfyfyrio yn y canllawiau i fyfyrwyr/cyflogwyr i ddangos yr oriau a gwblhawyd a'r gwaith adfyfyrio. Bydd hwn yn rhan o'r asesiad crynodol (llwyddo/methu) ar lefel 4 a lefel 5 y radd sylfaen. Bydd angen i fyfyrwyr ganfod a chytuno ar brofiad gwaith i'w gwblhau. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi gan y tîm addysgu i ymchwilio i weithleoedd addas ar gyfer lleoliadau gwaith, eu trafod, gwneud ceisiadau amdanynt, a deall sut y gall hyn gefnogi eu deilliannau dysgu. Cyn dechrau ar y profiad gwaith bydd angen i fyfyrwyr wirio beth yw gofynion y lleoliad(au) profiad gwaith gan fod angen gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) mewn rhai sectorau. Gall y Gwasanaethau i Ddysgwyr eich cefnogi gyda'r broses hon.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Dillad chwaraeon GLlM (dewisol: £20-£40)
  • Argraffu poster academaidd (£5)
  • Hyfforddiant galwedigaethol a phroffesiynol yn y diwydiant (dewisol: Enghraifft - Dyfarniad i Arweinwyr Pêl-droed £70)
  • Tripiau Allanol (dewisol: e.e. Cynhadledd ym Mhrifysgol Middlesex i Fyfyrwyr Chwaraeon a Hyfforddi £25)

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Steve Kehoe (Rhaglen Arweinydd): kehoe1s@gllm.ac.uk

Sian Backhouse (Gweinyddiaeth): backho1s@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Asesiadau Ymarferol
  • Cyflwyniadau (Grŵp ac Unigol)
  • Arholiad
  • Portffolio
  • Ysgrifennu Adfyfyriol
  • Astudiaethau Achos
  • Podlediadau
  • Datblygu Cynllun Hyfforddi

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Ar ôl dilyn y cwrs, bydd nifer o ddewisiadau o ran dilyniant proffesiynol ac addysgol ar gael i chi. Bydd llawer o fyfyrwyr yn dewis mynd ymlaen i astudio ar Lefel 6, gan dreulio blwyddyn arall yn astudio at radd BSc (Anrh). Wedyn, gallant ddilyn cwrs TAR er mwyn bod yn athro/athrawes Addysg Gorfforol.

Gall y Radd Sylfaen hefyd fod yn fodd i gael gwaith yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat. Gallech weithio fel hyfforddwr neu reolwr hyfforddi, neu weithio i wasanaeth cefnogi ym maes gwyddor chwaraeon neu ym maes datblygu chwaraeon. Dewis arall fyddai dilyn gyrfa ym maes iechyd neu wyddoniaeth, lle bydd eich profiad o ymchwilio'n uniongyrchol berthnasol.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Gwybodaeth am yr Uned

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau a ganlyn:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Anatomeg Ddynol (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw dysgu am gysyniadau sylfaenol sy'n ymwneud ag anatomeg ac sydd wrth wraidd gallu pobl i gynnal homeostasis ac i ryngweithio er mwyn cynhyrchu symudiadau. Bydd y modiwl hwn hefyd yn meithrin sgiliau astudio'n annibynnol a'r gallu i ganfod ac asesu gwybodaeth wyddonol. (Cyflwyniad 50%, Arholiad 50%)

Hanfodion Ffisioleg Ymarfer (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw dysgu rhagor am anatomeg ddynol a chyflwyno'r agweddau ffisiolegol ar berthynas gwahanol systemau'r corff â'i gilydd pan wneir ymarfer corff, a'r addasiadau a ddigwydd yn dilyn gwneud ymarfer corff am gyfnod hir. Hefyd, bydd y myfyrwyr yn meithrin sgiliau ymchwilio'n ymarferol mewn labordy ynghyd â sgiliau trin a chyflwyno data. (Traethawd 50%, Adroddiad 50%)

Hanfodion Seicoleg Chwaraeon (10 credyd, gorfodol)

Pwrpas y modiwl hwn yw edrych ar fodelau damcaniaethol sylfaenol sy'n rhan hanfodol o broses seicoleg chwaraeon ynghyd â'u perthynas â pherfformiad. (Traethawd 100%)

Asesu Ffitrwydd (10 credyd, gorfodol)

Prif nod yr uned yw sicrhau bod myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â thechnegau a phrotocolau profi, gan feithrin sgiliau ymarferol, trin data a chysyniadau pwysig ym maes ffisioleg ymarfer corff. Bydd myfyrwyr yn magu profiad ymarferol hefyd mewn perthynas â chod ymddygiad ac ystyriaethau moesegol a moesol. (Traethawd 15%, Asesiad Ymarferol / llyfr log 85%)

Maeth a Pherfformiad ym maes Chwaraeon (20 credyd, gorfodol)

Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr gyflwyniad i faeth ym maes chwaraeon, y rôl y mae maeth yn ei chwarae o ran gwella iechyd a pherfformiad a sut y gellir cynnwys ychwanegion dietegol (cymorth ergogenig) mewn poblogaethau o athletwyr. (Traethawd 60%, Cyflwyniad 40%)

Egwyddorion Hyffordd (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno cysyniadau damcaniaethol ynghylch y broses hyfforddi mewn modd ymarferol, gan roi profiad i fyfyrwyr o ddefnyddio gwahanol dechnegau hyfforddi mewn amrywiol sefyllfaoedd ym maes chwaraeon. Caiff myfyrwyr gyfle hefyd i gynllunio, i gynnal ac i werthuso eu sesiynau hyfforddi eu hunain. Mewn gweithdai Sports Coach UK, caiff myfyrwyr feithrin dealltwriaeth o'r prif feysydd sy'n gysylltiedig â hyfforddi e.e. diogelu ac anabledd ym maes chwaraeon. (Arsylwad hyfforddi 70%, Cyflwyniad 30%)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1 - Rhoi Theori ar Waith (20 credyd, gorfodol)

Byddwch yn gwneud nifer o dasgau sy'n gysylltiedig â gwaith, ac a drefnwyd gan gyflogwyr/cynrychiolwyr o'r diwydiant a staff y Grŵp ar y cyd. (Portffolio 100%)

Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw datblygu gallu'r myfyriwr i ddefnyddio amrediad o sgiliau academaidd yn briodol mewn disgyblaeth benodol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau o ran deall sut i ymchwilio'n briodol, defnyddio confensiynau academaidd, ysgrifennu academaidd a rheoli a threfnu eu gwaith. Bydd y modiwl hefyd yn eu cyflwyno i'r cysyniadau sylfaenol sy'n gysylltiedig â thrin a dadansoddi data. (Portffolio 100%)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Ffisioleg Gymhwysol i Hyfforddwyr (20 credyd, gorfodol)

Prif nod y modiwl hwn yw adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd eisoes am ffisioleg a maeth, gan alluogi myfyrwyr i roi'r wybodaeth hon ar waith fel hyfforddwyr o safbwynt gwyddor chwaraeon, gyda'r nod o wella perfformiad athletwyr. (Traethawd 50%, Cyflwyniad 50%)

Biomecaneg (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw meithrin dealltwriaeth ymarferol o gysyniadau ym maes biomecaneg a chinesioleg sy'n ymwneud â symud a pherfformio yng nghyd-destun chwaraeon, a chanfod meysydd y gellid eu gwella. (Adroddiad 100%)

Dadansoddi Perfformiad (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw meithrin gwybodaeth am ddulliau gwahanol o ddadansoddi perfformiad, gan eu rhoi ar waith mewn amrywiol gyd-destunau chwaraeon, a chan ddadansoddi eu heffeithiolrwydd a rhoi i fyfyrwyr sgiliau ymarferol o ran dadansoddi a rhoi adborth i athletwyr. (Traethawd 100%)

Seicoleg Arferion Hyfforddi (20 credyd, gorfodol)

Prif nod y modiwl hwn yw gwella sgiliau hyfforddi ymarferol ac edrych ar y prif gysyniadau sy'n dylanwadu ar yr amgylchedd hyfforddi a'r amgylchedd dysgu sydd ohoni ym maes hyfforddi heddiw. Bydd myfyrwyr yn astudio sut y gall arweinyddiaeth hyfforddwr effeithio ar yr amgylchedd dysgu a'r effaith a gaiff deinameg grŵp ar berfformiad tîm. (Arsylwad hyfforddi 60%, Cyflwyniad 40%)

Cryfder a Chyflyru (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw rhoi damcaniaethau ynghylch cryfder a chyflyru ar waith wrth hyfforddi athletwyr ac wrth wella perfformiad ym maes chwaraeon, datblygu dealltwriaeth o sut i gynllunio rhaglen a mynd ati i astudio technegau sy'n ymwneud yn benodol â chryfder a chyflyru. Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrediad o ymarferion ac yn gwella eu technegau addysgu a hyfforddi. (Traethawd 60%, Arsylwad hyfforddi 40%)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2 - Adfyfyrio Proffesiynol a Datblygiad Personol (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i ddysgwyr ddadansoddi gwerth eu dysgu mewn cyd-destunau galwedigaethol a gwaith-benodol. Wrth wneud hynny, bydd gofyn i'r myfyrwyr adfyfyrio ar eu profiadau dysgu, gan eu rhoi ar waith i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau academaidd a galwedigaethol, eu hunan-barch a'u cyflogadwyedd yn awr ac yn y dyfodol. (Portffolio 100%)

Dulliau Ymchwilio (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw cadarnhau, datblygu ymhellach ac ymestyn gallu'r myfyriwr i ddefnyddio amrediad o sgiliau academaidd yn briodol mewn maes penodol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i wella eu sgiliau ysgrifennu academaidd a'u sgiliau ymchwilio i ganfod gwybodaeth, datblygu rhagdybiaethau y gellir eu cyfiawnhau, defnyddio methodolegau ac adnoddau ymchwilio, dadansoddi ac adrodd ar ddata disgwyliedig a dadlau ag argyhoeddiad er mwyn cyflwyno adroddiad sy'n cyfleu cynnig ymchwil cadarn yn effeithiol. (Cynnig Prosiect 100%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser