BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon) (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 1 flwyddyn NEU Rhan-amser: 2 flynedd. Hefyd ar gael fel modiwlau.

    Dydd Mercher a Dydd Iau, 9am - 5pm

  • Cod UCAS:
    CX61
Cofrestrwch
×

BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon) (Atodol)

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n llawn-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Os oes gennych chi eisoes Radd Sylfaen (FdsC) mewn Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon) (neu gymhwyster cyfwerth), yna mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi fynd ymlaen i astudio ar lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn.

Bydd y rhaglen yn:

  • ⁠adeiladu ar brofiad presennol ym maes gwyddor hyfforddi a pherfformio chwaraeon, gan ddarparu fframwaith academaidd fanylach
  • rhoi cyfle i'r myfyrwyr feithrin a chyfleu gwybodaeth newydd am wyddor hyfforddi a pherfformio chwaraeon, gan herio safbwyntiau blaenorol
  • galluogi'r myfyrwyr i ymgymryd â dysgu ac ymchwil annibynnol yn y ddisgyblaeth chwaraeon
  • datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o'r sgiliau hyfforddi a pherfformio chwaraeon a ddefnyddir mewn sefyllfaoedd amrywiol ym maes chwaraeon
  • gwella iechyd ac ymgysylltiad â chwaraeon / gweithgareddau corfforol
  • rhoi cyfle i'r myfyrwyr fynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig ar ôl cwblhau'r cwrs
  • datblygu ymwybyddiaeth annibynnol o'r dulliau a ddefnyddir ym maes chwaraeon a sut y defnyddir hwy mewn cyd-destun ehangach
  • meithrin sgiliau ymchwiliadol a gwybodaeth bynciol y gall y dysgwyr eu defnyddio i ddatblygu gyrfa yn y sector

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Traethawd Estynedig
  • Addysgeg Hyfforddi Uwch
  • Straen a Gorbryder mewn Chwaraeon
  • Gweithgarwch Corfforol ar gyfer Iechyd a Ffitrwydd
  • Materion Cyfoes sy’n Ymwneud ag Ymyriadau Perfformiad

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion academaidd:

Bydd dilyniant i lefel 6 yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh) mewn Gwyddor Hyfforddi a Pherfformio Chwaraeon yn GLlM, yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus.

Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel (cyfanswm o 240 credyd) mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi).

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL)

Gofynion Iaith:

  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Sesiynau ymarferol
  • Dysgu cydweithredol
  • Ymweliadau allanol
  • Lleoliadau gwaith
  • Seminarau

Amserlen

  • Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am - 4:30pm, Dydd Mercher a dydd Iau)
  • Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am - 4:30pm)

Yn nodweddiadol bydd pob modiwl 10 credyd yn cymryd tua 100 o oriau dysgu tybiannol, gyda thua 30% yn ddysgu wedi'i amserlennu a gweithgaredd dan arweiniad a 70% yn astudio annibynnol. Gall y dysgu wedi'i amserlennu amrywio fesul modiwl yn dibynnu ar y dull cyflwyno a gofynion cynnwys y pwnc a gall yr astudio annibynnol amrywio'n ôl datblygiad myfyrwyr unigol. Y canllaw i fyfyrwyr yw cynllunio ar gyfer 1200 o oriau dysgu tybiannol y flwyddyn, gyda thua 360 o oriau dysgu wedi’u hamserlennu (dros 30 wythnos fel arfer), sy'n cynnwys oriau ar yr amserlen, lleoliad gwaith, dysgu seiliedig ar gyflogadwyedd a gweithgaredd dan arweiniad, a thua 840 awr o oriau astudio annibynnol yn ystod y flwyddyn astudio.

Byddem yn annog myfyrwyr i barhau â phrofiad gwaith fel rhan o'r arfer da a ddatblygwyd ym modiwlau cyflogadwyedd lefel 4 a 5 gan y byddai hyn yn annog datblygiad personol a phroffesiynol y myfyrwyr ar lefel 6.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Gwiriad DBS
  • Dillad chwaraeon GLlM (dewisol: £20-£40)
  • Argraffu poster academaidd (£5)
  • Hyfforddiant galwedigaethol a phroffesiynol yn y diwydiant (dewisol: Enghraifft – Dyfarniad i Arweinwyr Pêl-droed £70)
  • Tripiau Allanol (dewisol: e.e. Cynhadledd ym Mhrifysgol Middlesex i Fyfyrwyr Chwaraeon a Hyfforddi £25)

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Steve Kehoe (Rhaglen Arweinydd): kehoe1s@gllm.ac.uk

Sian Backhouse (Gweinyddiaeth): backho1s@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Ymyriadau Ymarferol
  • Asesu Sgiliau Hyfforddi
  • Cyflwyniadau
  • Astudio Erthyglau'n Feirniadol
  • Poster Academaidd
  • Astudiaethau Achos

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Gallai dilyniant i astudiaeth bellach gynnwys:

  • mynd ymlaen i ddilyn cwrs ôl-raddedig (gradd meistr neu PhD
  • Tystysgrif Addysg i Raddedigion gyda QTS (TAR)

Mae llawer o wahanol fathau o yrfaoedd yn y diwydiant hwn. Mae rhai o’n graddedigion blaenorol wedi mynd ymlaen i yrfaoedd ym maes:

  • Addysgu
  • Hyfforddi
  • Addysg Hyfforddi
  • Ffisiotherapi
  • Hyfforddiant Personol
  • Gwyddor Chwaraeon

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Gwybodaeth uned

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

Lefel 6

Ffisioleg Uwch (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw ymchwilio i ffisioleg lludded mewn amgylchedd eithafol (gwres) a thechnegau ymarfer a gynlluniwyd yn benodol i dargedu addasiadau ffisiolegol allweddol, ynghyd â'r canfyddiadau anghyson a geir yn y deunyddiau. Bydd y myfyrwyr yn parhau hefyd i feithrin sgiliau hyfforddi drwy gael eu hasesu'n gwneud y gwaith. (Arholiad 50%, Cymhwysedd ymarfer 50%)

Traethawd Estynedig (40 credyd, gorfodol)

Pwrpas y modiwl hwn yw adeiladu ar y cynnig ymchwil a chwblhau darn o waith annibynnol. Cyn mynd ati i ymchwilio, rhaid i fyfyrwyr wneud cais a chael sêl bendith y pwyllgor moeseg. Mae gofyn i fyfyrwyr gasglu data gwreiddiol/eilaidd, ei ddadansoddi, a darparu casgliadau ysgrifenedig a seiliwyd ar ddeilliannau gwyddonol. (Traethawd hir annibynnol 100%)

Materion mewn Hyfforddiant a Hyfforddi Chwaraeon (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o faterion cyfoes sy'n ymwneud â hyfforddiant a hyfforddi. Bydd myfyrwyr yn archwilio dadleuon mewn ymchwil ar ffactorau aerobig ac anaerobig allweddol, y defnydd o dechnoleg o fewn yr amgylchedd hyfforddi a natur gymhleth y berthynas hyfforddwr-athletwr. (Beirniadaeth erthygl 50%, Cyflwyniad 50%)

Poblogaethau Arbennig (20 credyd, gorfodol)

Prif nod y modiwl hwn yw astudio ffisioleg athletwyr ifanc a rhai hŷn, ynghyd â'r modd y maent yn ymateb i ymarfer corff. Hefyd, sefydlir y cysylltiad rhwng hyn a pherfformiad. Edrychir ar ymarferion sy'n cael eu hargymell, ar sail tystiolaeth, ar gyfer cyflyrau a phoblogaethau penodol ac ar sut y mae'r rhain yn cyfrannu at raglenni hyfforddi sy'n gysylltiedig ag iechyd. (Traethawd ysgrifenedig 60%, Cyflwyniad poster and viva voce 40%)

Seicoleg Chwaraeon i Hyfforddwyr (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw addysgu dysgwyr ynghylch damcaniaethau a modelau gorbryder a'u perthynas â pherfformiad, a rhoi i ddysgwyr y sgiliau a'r wybodaeth sy'n gysylltiedig ag ymyrraeth effeithiol. Yn y modiwl hwn, edrychir ar sut i lunio a dethol damcaniaethau priodol er mwyn deall ymddygiad perfformiwr mewn cyd-destun cystadleuol. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o'r egwyddorion seicolegol sydd wrth wraidd ymddygiad athletwyr ac i ddatblygu ffyrdd o hybu perfformiad athletwyr drwy gyfrwng amrediad o ymyriadau sy'n gysylltiedig â seicoleg chwaraeon, gan roi theori seicoleg chwaraeon ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn. (Traethawd ysgrifenedig 60%, Astudiaeth achos 40%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

n/a

Sefydliad dyfarnu