BA (Anrh) Rheolaeth Lletygarwch TOP UP

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn amser
  • Hyd:

    Amser-llawn: 1 blwyddyn NEU Rhan-amser: 2 flynedd. Hefyd ar gael fel modiwlau unigol.

  • Cod UCAS:
    N225
Gwnewch gais
×

BA (Anrh) Rheolaeth Lletygarwch TOP UP

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Gan fod y cyrsiau hyn yn y broses o gael eu datblygu maent yn amodol ar ddilysiad a chymeradwyaeth ar gyfer mis Medi 2024. Gall y cynnwys a'r modiwlau newid.

Hoffech chi gael gyrfa ym maes lletygarwch? Ydych chi'n awyddus i gael swydd reoli yn y diwydiant? Oes gennych chi Radd Sylfaen ac ydych chi'n awyddus i ddysgu rhagor? Os oes gennych eisoes Radd Sylfaen (FdA) mewn Rheoli ym maes Lletygarwch (neu gymhwyster cyfwerth), yna mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi fynd ymlaen i astudio ar lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Rheolaeth Strategol
  • Moeseg yn y Diwydiant Digwyddiadau, Lletygarwch a Thwristiaeth
  • Materion Cyfoes yn ymwneud â Lletygarwch a Thwristiaeth
  • Creu Profiadau ym maes Bwyd a Diod

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach ar fodiwlau i'w gael yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol am y Campws / Cwrs'.'

Gofynion mynediad

Gofynion ieithyddol

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 6 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5).

Gofynion academaidd

Bydd dilyniant i flwyddyn atodol y Radd BA (Anrh) lefel 6 hon yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh) mewn Rheoli ym maes Lletygarwch yn GLlM yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus. Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 240 credyd, sef 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws ar lefel 4 a 5 (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi). Neu gefnogi eu cais drwy gyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM.

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai a gwaith ymarferol
  • Tiwtorialau
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Amserlen

  • Llawn amser: 1 flwyddyn, gan astudio fel arfer am un diwrnod hir (9.00am - 9.00pm), neu ddau ddiwrnod byrrach (9.00am - 3.30pm bob wythnos)
  • Rhan-amser: 2 flynedd - mewnlenwi'r rhaglen lawn amser

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

Yn ystod y rhaglen Lletygarwch bydd myfyrwyr yn dod yn aelodau o'r Sefydliad Lletygarwch, ond nid oes cost ychwanegol yn gysylltiedig â hyn ar hyn o bryd. Gall hyn newid o flwyddyn i flwyddyn.

Yn ystod y rhaglen, caiff myfyrwyr eu hannog i fanteisio ar gyfleoedd i ddod yn aelodau o gyrff proffesiynol eraill a all olygu costau ychwanegol. Yn benodol, ar gyfer y rhaglen hon fe'ch anogir i ymaelodi ag Academi Twristiaeth a Lletygarwch Gogledd Cymru. Academi ar-lein yw hon sy'n cefnogi aelodau trwy gynnig cyfleoedd rhwydweithio a sesiynau datblygu personol.

Mae'n bosibl y bydd ymweliadau allanol yn cael eu cynnal yn ystod y rhaglen y bydd angen i fyfyrwyr gyfrannu'n ariannol tuag atynt. Dylai myfyrwyr gyllido tua £50 ar gyfer hyn.

Amcangyfrif yn unig yw'r ffigur hwn, a gall y gost fod yn uwch yn dibynnu ar y cyfleoedd fydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Michael Garner (Rhaglen Arweinydd): garner1m@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Traethawd Estynedig
  • Cynnig Ymchwil
  • Arholiad
  • Traethodau
  • Astudiaeth Achos
  • Papur seminar
  • Cyflwyniadau
  • Cynllun busnes

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r radd BA (Anrh) Rheolaeth Lletygarwch, gallwch gychwyn gyrfa reoli yn y sector lletygarwch, neu symud ymlaen i ennill cymwysterau is-raddedig neu broffesiynol pellach.

Gall y cwrs arwain at swydd mewn ystod o wahanol fusnesau gan gynnwys rhai gyda ffocws ar wasanaeth cwsmer neu letygarwch. Mae ymarferwyr lletygarwch yn gweithio mewn gwestai, tai bwyta, tafarndai thematig, canolfannau cynadledda, cyfleusterau arddangosfa, canolfannau corfforaethol a chwaraeon, busnesau arlwyo a busnesau eraill.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad cwrs

Mae'r BA (Anrh) Rheolaeth Lletygarwch wedi'i ddyfeisio i'ch paratoi ar gyfer swydd ar unwaith ac i gael gyrfa lwyddiannus mewn rheoli lletygarwch. Mae'n rhoi cymysgedd o addysg academaidd a galwedigaethol ichi.

Mae sgôp eang y cwrs yn rhoi cyfle ichi ennill dealltwriaeth o holl elfennau allweddol y sector lletygarwch ac o arferion rheoli. Byddwch yn dysgu am letygarwch fel ffenomenon, ac yn edrych sut wnaeth y sector ddatblygu a thyfu. Byddwch hefyd yn edrych yn fwy penodol ar natur cwsmer-ganolog y diwydiant. Byddwch yn dysgu sut i ddeall ymddygiad cwsmeriaid a sut i werthuso gwasanaeth cwsmer.

Mae'r cwrs yn eich paratoi ar gyfer rolau rheoli drwy eich cyflwyno i theorïau a chysyniadau o amrywiol feysydd rheoli, gan gynnwys rheoli gweithredu, cyllid, adnoddau dynol a rheoli strategol. Byddwch hefyd yn dysgu am yr amgylchedd y mae busnesau'n gweithio o fewn iddynt, ac yn dod i ddeall sut y mae'r holl syniadau hyn yn uniongyrchol berthnasol i'r sector lletygarwch.

Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn ystod o feysydd ac yn gwella eich capasiti i wneud dadansoddiad beirniadol, penderfyniadau a datrys problemau. Ynghyd â'r cipolwg a gewch i sut y mae'r diwydiant lletygarwch yn gweithio, bydd hyn yn helpu i'ch paratoi ar gyfer gyrfa reoli gyffrous.

Gwybodaeth uned

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

Lefel 6

Traethawd Estynedig (40 credyd, gorfodol)

Yn y traethawd estynedig, bydd myfyrwyr yn ymchwilio i bwnc y mae ganddynt ddiddordeb ynddo. Ar ôl cynnig teitl a chynnal adolygiad llenyddol, bydd myfyrwyr yn llunio traethawd estynedig/prosiect ymchwil. (Cynnig Ymchwil 10%, Traethawd Estynedig 90%)

Rheolaeth Strategol (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw datblygu ymwybyddiaeth o'r materion amgylcheddol mewnol ac allanol sy'n dylanwadu ar benderfyniadau strategol sefydliadau yn yr unfed ganrif ar hugain. Bydd myfyrwyr yn astudio ac yn meithrin sgiliau gwerthuso wrth ddefnyddio fframweithiau'n arf i wneud penderfyniadau strategol mewn amgylcheddau busnes. (Arholiad 50%, Traethawd 50%)

Moeseg yn y Diwydiant Digwyddiadau, Lletygarwch a Thwristiaeth (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl yw archwilio a gwerthuso egwyddorion a damcaniaethau moesegol mewn cyd-destunau'n ymwneud â digwyddiadau, twristiaeth a lletygarwch. Bydd damcaniaethau'n cael eu trafod a'u gwerthuso er mwyn gweld eu gwerth i'r diwydiant digwyddiadau, twristiaeth a lletygarwch cyfoes. Yn ogystal, trafodir dylanwadau lleol a byd-eang er mwyn gweld pa mor bwysig yw cyfraniad y rhanddeiliaid gwahanol yn y cyd-destunau hyn. (Traethawd 50%, Seminar/Papur ymchwil 30%, Cyflwyniad 20%)

Materion Cyfoes yn ymwneud â Lletygarwch a Thwristiaeth (20 credyd, gorfodol)

Mae'r modiwl hwn yn archwilio'n feirniadol yr heriau mewnol ac allanol sy'n wynebu sefydliadau lletygarwch a thwristiaeth mewn cyd-destunau cyfoes. Bydd arwyddocâd ac effaith bosibl tueddiadau a materion cyfoes yn y sector yn cael eu dadansoddi a'u gwerthuso'n feirniadol. Yna bydd y datrysiadau sy'n anelu at reoli'r effeithiau posibl yn cael eu trafod ochr yn ochr â'r cyfiawnhad dros y datrysiadau hyn yng nghyd-destun sefydliadau. (Traethawd 40%, Astudiaeth Achos 60%)

Creu Profiadau ym maes Bwyd a Diod (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl yw diffinio'r economi sy'n seiliedig ar greu profiadau ym maes bwyd a diod a dadansoddi'n feirniadol pam fod yr economi hon wedi dod i fod. Dadansoddir modelau traddodiadol o ymddygiad cwsmeriaid ochr yn ochr â modelau mwy cyfoes. Yn ogystal, bydd tueddiadau rhyngwladol ym maes bwyd a diod, cyfryngau cymdeithasol, marchnata a demograffeg-gymdeithasol yn cael eu gwerthuso. Bydd gwybodaeth yn cael ei chyfosod i lunio a chyflwyno cysyniad creadigol a dyfeisgar ar gyfer profiad bwyd a diod. (Traethawd 50%, Cynllun busnes 50%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

n/a

Sefydliad dyfarnu