BA (Anrh) Technoleg a Chynhyrchu yn y Cyfryngau (Atodol)
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
-
Dull astudio:Rhan amser, Llawn amser
-
Hyd:
Llawn amser: 1 flwyddyn; Rhan-amser: 2 flynedd NEU drwy fodiwlau
Dydd Iau a Dydd Gwener, 9am-5pm
-
Cod UCAS:5G2M
BA (Anrh) Technoleg a Chynhyrchu yn y Cyfryngau (Atodol)
Graddau (Addysg Uwch)
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bwriad y cwrs yw rhoi i'r myfyrwyr y sgiliau technegol, creadigol a damcaniaethol sy'n angenrheidiol i gynhyrchu cynnwys safonol ar gyfer y cyfryngau ar amrywiol lwyfannau, gan gynnwys fideo, sain, cyfryngau rhyngweithiol, a thechnolegau newydd. Nod arall y cwrs yw rhoi i'r myfyrwyr y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithio yn y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol, gan bwysleisio'r angen i addasu i dechnolegau ac arferion newydd. Bydd gan y sawl sy'n graddio oddi ar y cwrs set amrywiol o sgiliau i'w paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd yn y cyfryngau a'r sectorau creadigol a thechnegol. Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys bod yn: Gyfarwyddwr, Golygydd, Gweithredwr Camera, Sinematograffydd, Cynorthwyydd Cynhyrchu, Goruchwyliwr Sgriptiau, Technegydd Theatr a Stiwdio, Rheolwr Llawr a Llwyfan, Awdur, Cynhyrchydd neu Ymchwilydd.
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
- Prosiect Copa
- Prosiect Cydweithredol
- Mentergarwch ac Ymarfer Proffesiynol
- Moeseg y Cyfryngau
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Gofynion Academaidd:
- Gradd Sylfaen (FdA) Technoleg a Chynhyrchu yn y Cyfryngau neu gymhwyster Lefel 5 cyfatebol
Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.
Gofynion Iaith:
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
- Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 4: IELTS 5.5 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.0)
- Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd rhyngweithiol
- Tiwtorialau
- Modiwlau yn y gweithle
- Siaradwyr gwadd
- Dysgu myfyriwr ganolog
- Amgylchedd dysgu rhithiol (MOODLE)
Byddwch yn dysgu'n anffurfiol drwy gymryd rhan, gan gael digon o gyfle i archwilio ar eich liwt eich hun a bod yn greadigol. Mae'n bosib hefyd y cewch brofiad gwaith yn y maes yn ystod y cwrs.
Amserlen
- Llawn amser: 1 flwyddyn, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am - 5 pm)
- Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9am - 5 pm)
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Costau Ychwanegol
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- deunyddiau i astudio'n annibynnol
- ymweliadau allanol, e.e. ag amgueddfeydd neu arddangosfeydd
- meddalwedd i allu gweithio gartref
- mynediad at ddeunyddiau i'w gwerthuso a'u dadansoddi
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Chris Bainbridge (Rhaglen Arweinydd): bainbr1c@gllm.ac.uk
David Clarke (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Portffolios unigol
- Adroddiadau
- Astudiaethau achos
- Cyflwyniadau
- Adroddiadau grwpiau
- Cyflwyniadau grŵp
- Traethawd Estynedig
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Gall y cwrs hwn arwain at swydd mewn amrywiaeth o sefydliadau yn ogystal â chyfleoedd i astudio ymhellach. Dewis rhai graddedigion yw mynd i waith a dechrau ar yrfa yn y cyfryngau.
Mae cynhyrchwyr cyfryngau'n gweithio ym maes teledu, ffotograffiaeth, ffilmiau, radio, y we, graffeg, dylunio gemau, animeiddio, amlgyfryngau, ôl-gynhyrchu, newyddiaduriaeth a meysydd eraill.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau a ganlyn:
Traethawd estynedig (40 credyd): Dyma fodiwl craidd y radd anrhydedd ac mae'n werth 40 credyd. Cewch ddewis pwnc eich traethawd estynedig a pha drywydd i'w ddilyn wrth ymchwilio ac archwilio.
Prosiect Grŵp (40 credyd): Dyma fodiwl ymarferol sy'n caniatáu i chi weithio'n rhan o dîm cynhyrchu, gan roi gwerthoedd proffesiynol ar waith. Er enghraifft, gallwch gynhyrchu ffilm fer, trefnu arddangosfa o ffotograffau neu ddigwyddiad byw, neu greu gêm. Beth bynnag yw'ch arbenigedd yn y cyfryngau, bydd y modiwl hwn yn eich helpu i gwblhau prosiect o'ch pen a'ch pastwn eich hun.
Moeseg y Cyfryngau (20 credyd): Yn y modiwl hwn, edrychir ar egwyddorion a chodau moesegol fel hawlfraint ac eiddo cyffredin creadigol ynghyd â'r ffordd y gall gwleidyddiaeth ddylanwadau ar y newyddion a geir ar y cyfyngau. Mae'r modiwl hefyd yn edrych ar y defnydd a wnaed o dechnoleg yn y gorffennol a'r defnydd a wneir ohoni ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ar elfennau traws-gyfryngol a'r cwestiynau moesegol sy'n codi yn sgil technoleg newydd.
Mentrau ac Arferion Proffesiynol (20 credyd): Modiwl ymarferol, lle bydd unigolyn yn gweithio'n unol â briff sy'n gysylltiedig â'r maes, yw hwn. Byddwch yn gweithio ac yn cysylltu â'r diwydiant er mwyn cwblhau prosiect byw.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
6
Sefydliad dyfarnu: Bangor University
Dwyieithog:
n/a