BA (Anrh.) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 1 flwyddyn (2 prynhawn hwyr / noson yr wythnos) NEU Rhan-amser: 2 flynedd (1 prynhawn hwyr / noson yr wythnos). Ar gael ar yn fodiwlaidd hefyd.

  • Cod UCAS:
    L510
Gwnewch gais
×

BA (Anrh.) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod (Atodol)

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Ni allwch wneud cais am y cwrs hwn drwy UCAS.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n gweithio gyda phlant, neu'n awyddus i wneud hynny, ac am ddatblygu'ch sgiliau a'ch gwybodaeth? A allai gradd mewn Astudiaethau Plentyndod fod o gymorth i roi hwb i'ch gyrfa?

Os oes gennych Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod a Chymorth Dysgu (neu gymhwyster cyfwerth), mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i symud ymlaen i Lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn.

Mae'r cwrs yn addas i'r sawl sy'n gweithio neu sydd eisiau gweithio gyda phlant mewn amrywiaeth eang o swyddi. Mae'r rhaglen yn arbennig o addas i'r oedolion hynny sydd ar hyn o bryd yn gweithio neu'n bwriadu gweithio mewn lleoliad blynyddoedd cynnar neu gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 1, 2 neu 3 mewn ysgolion lleol.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Astudiaethau Cymharol ym maes Gofal ac Addysg yn ystod Plentyndod Cynnar
  • Partneriaethau Teulu a Phroffesiynol
  • Anghydraddoldeb, Tlodi Plant ac Allgau Cymdeithasol
  • Cyflogadwyedd a Datblygiad Ymarferwyr
  • Cefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

Bydd gofyn i'r ymgeisydd fynychu cyfweliad er mwyn sicrhau bod y ddau barti yn deall yr ymrwymiad gofynnol, lefel astudio ac addasrwydd ar gyfer y rhaglen.

Bydd dilyniant i lefel 6 yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh.) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod yn GLlM yn dilyn cyrhaeddiad llwyddiannus mewn 240 credyd pwnc penodol: 120 credyd AU Lefel 4 a 120 credyd AU Lefel 5 yn y maes pwnc perthnasol.

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Bydd mynediad arall i lefel 6 yn cael ei ystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM o ran trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi). Neu drwy gefnogi eu cais drwy gyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisi GLlM.

Ceisiadau Hyfforddiant Athrawon: Bydd angen i'r rhai sy'n bwriadu mynd ymlaen i fod yn athrawon ar ôl cwblhau'r Radd BA (Anrh) mewn Astudiaethau Plentyndod feddu ar y cymwysterau TGAU perthnasol.

Gofynion Iaith:

  • Dylai unrhyw radd, diploma neu dystysgrif gymwys fel a nodir uchod fod wedi cael eu dysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5 neu uwch: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Sesiynau tiwtorial
  • Siaradwyr gwadd
  • Trafodaeth grŵp
  • Ymchwil annibynnol
  • Dysgu myfyriwr-ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Amserlen

Cyflwynir y cwrs hwn mewn dull cyfunol sydd fel arfer yn golygu cynnal sesiynau bob yn ail ar y campws ac ar-lein ddwywaith yr wythnos, gyda phwysau cyfartal yn cael eu rhoi i'r ddau.

  • Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 prynhawn hwyr / noson yr wythnos (fel arfer 4.00 pm - 9.00 pm)
  • Rhan-amser: 2 flynedd, 1 prynhawn hwyr / noson yr wythnos (fel arfer 4.00 pm - 9.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Gofyniad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Bydd gwybodaeth fanylach am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliadau gwaith / profiad gwaith (os yw'n berthnasol) yn cael ei hamlinellu yn nogfen ddilysu'r rhaglen ac yn cael ei hesbonio i chi yn eich cyfweliad.

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Sarah Harris (Rhaglen Arweinydd): harris2s@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Traethodau
  • Portffolio sgiliau
  • Traethawd estynedig
  • Cyflwyniadau poster
  • Cyflwyniadau llafar unigol
  • Myfyrdodau
  • Dadansoddi astudiaethau achos

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn rhoi cyfle ichi ddatblygu yn eich gyrfa mewn amrywiaeth o feysydd plentyndod a chymorth dysgu. Byddwch yn barod am ddyrchafiad, mwy o gyfrifoldeb yn eich swydd bresennol neu am newid gyrfa. Gallwch hefyd ddewis symud ymlaen at astudiaeth broffesiynol neu is-raddedig bellach.

Addysgu (cynradd, uwchradd, ac Addysg Bellach) – nid yw'r rhaglen yn arwain at Statws Athro Cymwysedig ond gall fod yn gyfle i raddedigion fynd ymlaen i gael Statws Athro Cymwysedig drwy'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion neu gymhwyster addysgu arall.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i adeiladu ar eich profiad a'ch cymwysterau ym maes Astudiaethau Plentyndod. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys traethawd hir ar bwnc arbenigol ac yn arwain at ennill gradd Anrhydedd.

Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o'r myfyrwyr a fydd yn dilyn y rhaglen hon yn gweithio yn y maes ac mae'r rhaglen wedi'i strwythuro a'i hamserlennu i ganiatáu i rai sy'n gweithio naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser, ac sydd ag ymrwymiadau personol a phroffesiynol, ei dilyn.

Mae'r cwrs yn cynnig cyfle arbennig i feithrin a chyfuno dealltwriaeth a gwybodaeth hyd at lefel myfyriwr israddedig ynghyd ag atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd. Mae hyn yn cynorthwyo myfyrwyr i fodloni gofyniad Llywodraeth Cymru am weithlu graddedig, a bydd hyn o fantais iddynt wrth iddynt chwilio am waith. Gall cwblhau'r cwrs hwn hefyd alluogi myfyrwyr i symud ymlaen i astudio cyrsiau proffesiynol neu ôl-raddedig.

Gwybodaeth Uned

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

Lefel 6:

Astudiaethau Cymharol ym maes Gofal ac Addysg yn ystod Plentyndod Cynnar (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw meithrin eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r sail resymegol a ddefnyddir i wneud cymariaethau rhyngwladol a'r cyd-destun a ddarpara hyn ar gyfer adfyfyrio ar ein systemau ein hunain, yn ogystal â'r dulliau o wneud cymariaethau rhyngwladol a'r fframweithiau dadansoddi a ddefnyddir. Mae hefyd yn ymdrin â rhoi arferion a pholisïau ar waith mewn gwahanol wledydd, a sut mae hynny'n cymharu â'r hyn a wneir yng Nghymru ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig. (Traethawd 60%, Asesiad dan Reolaeth 40%)

Traethawd Hir (40 credyd, gorfodol)

Bydd y modiwl hwn yn paratoi ac yn cynorthwyo myfyrwyr i ysgrifennu darn o waith estynedig ar bwnc o'u dewis sy'n ymwneud â'u maes proffesiynol, gyda chefnogaeth goruchwyliwr profiadol.

Bydd yn galluogi myfyrwyr i ddangos hyd a lled eu gwybodaeth mewn maes pwnc penodol sydd o ddiddordeb proffesiynol iddynt. Bydd y traethawd estynedig yn dangos gallu academaidd y myfyriwr yn gyffredinol. Gall myfyrwyr naill ai ymgymryd ag ymchwil gynradd neu eilaidd a byddant yn cael eu goruchwylio a'u harwain. (Traethawd Hir 75%, Cadw cofnodion 5%, Cyflwyniad poster 20%).

Partneriaethau Teulu a Phroffesiynol (10 credyd, gorfodol)

Disgwylir i bob ymarferydd sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill o fewn ac ar draws disgyblaethau. Yng Nghymru, mae pwyslais penodol ar weithio ar y cyd a gweithio mewn partneriaeth o fewn strategaethau fel Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf ac wrth wraidd strategaethau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae'r modiwl hwn yn dehongli gweithio ar y cyd mewn gwasanaethau plant ar lefel polisi a strategol. Cynnwys gwerthfawrogiad o faterion yn ymwneud ag anabledd dysgu ac iechyd meddwl wrth weithio gyda'r teulu a phartneriaethau proffesiynol. (Astudiaeth achos 100%).

Anghydraddoldeb, Tlodi Plant ac Allgau Cymdeithasol (20 crecdyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn, caiff y myfyrwyr wybod am y dadleuon sy'n bodoli o ran diffinio tlodi plant ac allgau cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig, beth sy'n eu hachosi, nifer yr achosion a'r effaith a gânt. Caiff y myfyrwyr hefyd ddysgu sut i ddadansoddi'r polisïau a ddefnyddir ar hyn o bryd i fynd i'r afael â'r broblem. Eglurir y rhesymau dros dlodi plant, y modd y mae'n amrywio, gan sôn am brofiadau o dlodi plant, a'r effaith a gaiff ar gyfleoedd bywyd plant. (Traethawd 100%)

Cyflogadwyedd a Datblygiad Ymarferwyr (10 credyd, gorfodol)

Mae'r modiwl hwn yn cyfuno sgiliau o ddysgu blaenorol a chyfredol, ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer datblygu eu gyrfaoedd ac astudio ôl-raddedig. Mae'r modiwl yn cynnwys cyfleoedd i wella ac atgyfnerthu sgiliau adfyfyrio a gwerthuso beirniadol trwy ddefnyddio dulliau dysgu seiliedig ar dystiolaeth i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i weithio'n annibynnol i ganfod cyfleoedd posibl yn y sector swyddi a ddewiswyd, a pharatoi CV a chynnwys perthnasol cyn cymryd rhan mewn ffug gyfweliad. (Portffolio 100%)

Cefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol (20 credyd, gorfodol)

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysgol (Cymru) 2018 yn cyflwyno cysyniad ehangach o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac yn symud tuag at sefydlu dull mwy modern o ymdrin ag Anghenion Addysgol Arbennig. Gan adeiladu ar wybodaeth bresennol myfyrwyr o ddatblygiad nodweddiadol yn ystod plentyndod, mae'r modiwl hwn yn ceisio sefydlu gwybodaeth am gyflyrau AAA / ADY cyffredin ac yn archwilio sylfeini deddfwriaethol ymyriadau, darpariaethau a chymorth addysgol cyffredin a'r dystiolaeth ymchwil dros eu defnyddio. Archwilir y goblygiadau o ran cynhwysiant a rôl staff cymorth, a phrofir dealltwriaeth myfyrwyr trwy ddefnyddio strategaeth gymorth mewn astudiaeth achos (Astudiaeth Achos 40%, Cyflwyniad llafar 40%, Adfyfyrio 20%).

Cyfleoedd o ran gyrfa:

  • Gofalwr Plant
  • Gweithiwr Meithrinfa
  • Arwain a Rheoli
  • Addysgu
  • Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd
  • Mentor Dysgu
  • Athro Ysgol Gynradd
  • Athro Ysgol Uwchradd
  • Athro Anghenion Addysgol Arbennig
  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Gweithiwr Ieuenctid
  • Seicotherapydd Plant
  • Nyrs Plant
  • Gweithiwr Datblygu Cymunedol
  • Cwnselydd
  • Seicolegydd Addysgol
  • Therapydd Iaith a Lleferydd

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Children’s Development & Education

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

n/a

Children’s Development & Education

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Children’s Development & Education

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Sefydliad dyfarnu