PWRPAS Y SWYDD
Mae'r Cynorthwy-ydd Gofalu am Anifeiliaid yn gyfrifol am
ofalu am yr holl anifeiliaid sy'n cael eu cadw ar gyfer cyrsiau Gofalu am
Anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys yr anifeiliaid sydd wedi'u
lleoli yn y Ganolfan Anifeiliaid ac o gwmpas, y rhai sydd yn yr ystafell
egsotig, lleiniau tu all a a stablau. Nid yw'n cynnwys anifeiliaid fferm.
Rhaid i'r gwaith:
Sicrhau fod yr anifeiliaid yn
derbyn gofal i'r lefelau lles gorau
Bod o'r ansawdd gorau posibl
Adlewyrchu cenhadaeth, gwerthoedd
ac amcanion y Coleg.
Hawl gwyliau:- Wedi ei gynnwys yn y raddfa'r awr
Oriau - Patrwm gweithio:- Hyd at 15 awr yr wythnos. Patrwm gwaith i'w gytuno ond all gynnwys gweithio ar y penwythnos
Hawliau Pensiwn:- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Sgiliau iaith:- Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y swydd hon, cysylltwch â'r adran Adnoddau Dynol: jobs@gllm.ac.uk.