Twf Swyddi Cymru+

Twf Swyddi Cymru+ yw rhaglen newydd Llywodraeth Cymru sy'n helpu pobl ifanc 16-19 oed i symud ymlaen i fyd gwaith.

Beth yw Twf Swyddi Cymru+?

Twf Swyddi Cymru+ yw rhaglen newydd Llywodraeth Cymru sy'n helpu pobl ifanc 16-19 oed i symud ymlaen i fyd gwaith. Cewch gymorth am ddim fydd wedi'i deilwra i'ch anghenion ac yn cynnwys gwasanaeth mentora, cyngor, hyfforddiant, profiad neu leoliadau gwaith a chyfleoedd i wneud cais am swyddi. ⁠ Byddwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau, ennill cymwysterau a chael profiad gwaith. Byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu ac yn magu hyder hefyd!

Efallai eich bod yn chwilio am y swydd iawn i chi, yn pendroni pa gwrs i'w wneud neu eisiau rhywfaint o gefnogaeth i gyrraedd eich nod.

Dyna ble y gall Twf Swyddi Cymru+ eich helpu. Mae'n ffordd wych o roi hwb i'ch hyder ac i gael profiad o'r math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo. Cewch hefyd fanteisio ar hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi cyflogedig gyda chyflogwyr yn yr ardal.

Ydw i'n gymwys?

I fod yn gymwys am hyfforddiant TSC+ mae'n rhaid i chi:

  • fod rhwng 16 ac 19 oed
  • peidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
  • bod yn byw yng Nghymru

Nid ydych yn gymwys os ydych chi:

  • o oedran ysgol gorfodol
  • yn 20 oed neu hŷn
  • yn mynychu ysgol neu goleg yn llawn amser fel disgybl neu fyfyriwr
  • mewn addysg uwch llawn amser

Faint fydd yr hyfforddiant yn ei gostio?

Dim. Bydd Llywodraeth Cymru'n talu holl gostau'r hyfforddiant.

Byddwch yn derbyn:

  • lwfans hyfforddi o hyd at £60 yr wythnos yn dibynnu ar eich presenoldeb
  • lwfans cinio o £3.90 y dydd
  • costau teithio i'r canolfannau hyfforddi a'r lleoliadau profiad gwaith ac oddi yno
  • clwb brecwast am ddim

Oes angen unrhyw sgiliau neu gymwysterau blaenorol arnaf?

Na.

Pa gyrsiau TSC+ sydd ar gael? Pryd maen nhw'n dechrau?

Mae gennym amrywiaeth eang o raglenni sy'n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn, felly gallwch ymuno unrhyw bryd.

Ewch i wefan Twf Swyddi Cymru+ i gofrestru eich diddordeb.

Myfyriwr yn cael cymorth i ddefnyddio cyfrifiadur