Rhaglen Cyswllt Gofal Iechyd Coleg Nyrsio Brenhinol (RNC) Cymru

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Tua 6 mis (mis Medi – mis Mawrth)

Cofrestrwch
×

Rhaglen Cyswllt Gofal Iechyd Coleg Nyrsio Brenhinol (RNC) Cymru

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bwriad Rhaglen Cyswllt Gofal Iechyd RCN Cymru yw darparu llwybr i hyfforddeion sydd angen gwell cymwysterau lefel 3 er mwyn gallu dilyn cwrs gradd mewn nyrsio neu fydwreigiaeth.

Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i hyfforddeion sydd eisoes wedi ennill y cymwysterau angenrheidiol i ddilyn cwrs gradd ond sy'n teimlo'r byddent yn elwa o gael rhagor o brofiad mewn lleoliad iechyd neu ofal.

Mae'r cwrs yn cynnig cyfle unigryw i ennill cyflog wrth ddysgu. Mae'r cwrs yn gyfle unigryw i ennill cyflog wrth ddysgu trwy weithio rhwng 12 a 30 awr fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd mewn Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Iechyd Meddwl a Llesiant
  • Egwyddorion Hybu Iechyd
  • Ymwybyddiaeth o Ddementia
  • Hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Egwyddorion Rhoi Dyletswydd Gofal ar Waith
  • Hyrwyddo Dulliau sy’n Canolbwyntio ar Unigolion
  • Hyrwyddo a Rhoi Iechyd a Diogelwch ar Waith
  • Hyrwyddo Arfer Da wrth Drin Gwybodaeth
  • Gweithio mewn Timau Amlddisgyblaethol, Timau Gofal Cynradd ac Eilaidd, a/neu Dimau Cymunedol
  • Egwyddorion Diogelau ac Amddiffyn mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Ymgymryd â Datblygiad Personol
  • Sgiliau Cyfathrebu i’w Defnyddio mewn Lleoliadau Gofal Iechyd
  • Atal a Rheoli Heintiau
  • Sgiliau Astudio i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd: Ymarfer Adfyfyriol

Gofynion mynediad

Mae'r cwrs i ddysgwyr sydd wedi cwblhau:

  • Cymhwyster Lefel 3 ym maes Iechyd, neu dair Lefel A.
  • TGAU Gradd C neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth, mewn Saesneg a Mathemateg.
  • Rhaid i chi fod â hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig drwy gydol cyfnod y rhaglen.
  • Yn dilyn cyfweliad llwyddiannus, bydd angen i chi fod wedi'ch penodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weithio fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn dilyn patrwm hybrid sy'n cyfuno theori ac ymarfer.

Asesiad

Defnyddir asesiadau theori ac asesiadau sy'n seiliedig ar gymhwysedd i asesu'r cymhwyster.

Dilyniant

Llwybr i hyfforddeion sydd angen gwell cymwysterau lefel 3 er mwyn gallu dilyn cwrs gradd mewn Nyrsio neu Fydwreigiaeth.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Myfyrwyr yn gweithio mewn ystafell ddosbarth