BA (Anrh) Celf a Dylunio (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Parc Menai
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn amser
  • Hyd:

    Llawn Amser: 1 flwyddyn; Rhan-amser: 2 flynedd

  • Cod UCAS:
    WW13
Gwnewch gais
×

BA (Anrh) Celf a Dylunio (Atodol)

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Parc Menai

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Ni allwch wneud cais am y cwrs hwn drwy UCAS.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Parc Menai

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi eisiau gyrfa yn un o'r disgyblaethau eang sy'n gysylltiedig â chelfyddyd gain, celf gymhwysol a dylunio? Ydych chi'n dyheu am fod yn artist neu'n ddylunydd, ac am ddatblygu eich ymarfer creadigol?

P'un ai yw eich ffocws ar eich gyrfa neu ar eich hoff-beth, bydd y Radd Sylfaen hon yn rhoi cyfle delfrydol ichi ddatblygu eich gwybodaeth artistig, eich hyder a'ch ochr greadigol. Byddwch yn ennill cymhwyster Addysg Uwch gwerthfawr, ac yn cael yr opsiwn o symud ymlaen at Lefel 6 i gwblhau gradd Anrhydedd.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Lleoli Ymarfer Proffesiynol
  • Ymarfer Estynedig
  • Arddangosf

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

⁠Gofynion Academaidd i gael mynediad i raglen ar Lefel 6

Bydd dilyniant i lefel 6 yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh.) mewn Celf a Dylunio yn GLlM yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus.

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi).

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen ddysgu drwy gyfrwng cyfres o weithgareddau dysgu cyfunol (wyneb yn wyneb ac ar-lein), darlithoedd rhyngweithiol, seminarau, grwpiau trafod, gweithdai, siaradwyr gwadd, ymarferion datrys problemau, datblygiad dan arweiniad, adborth ar asesiadau ac adborth beirniadol (gan diwtoriaid a chyd-fyfyrwyr), gweithgareddau i unigolion a grwpiau a thiwtorialau cysylltiedig. Rhan bwysig o’r cwrs fydd ystyried deunydd a seiliwyd ar astudiaethau achos, erthyglau mewn cyfnodolion ac ymweliadau siaradwyr gwadd sy'n dangos y themâu a drafodir ar waith yn y byd go iawn.

Amserlen

  • Llawn amser: i'w gadarnhau
  • Rhan-amser: i'w gadarnhau

Ffioedd

Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth.

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

Cewch deithio am ddim ar fws gwennol i'r prif gampws yn y bore, amser cinio ac ar ddiwedd y dydd.

  • Disgwylir i bob myfyriwr gymryd rhan mewn ymweliadau a theithiau astudio a dylid neilltuo tua £250 ar gyfer hyn.
  • Ffi flynyddol o £30 am ddefnyddio'r stiwdio – cyfraniad tuag at gostau nwyddau a deunyddiau hanfodol a phwrpasol a ddefnyddir yn ystod y sesiynau yn y stiwdio.
  • Deunyddiau celf
  • Costau cludiant ychwanegol ar gyfer ymweliadau ag Orielau ac Arddangosfeydd
  • Costau ychwanegol ar gyfer arddangos

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi fynychu cyfweliad i roi y cyfle i chi drafod y cwrs.

Dewch â sampl o'ch portffolio i'r cyfweliad. Mae lleoedd ar y rhaglen yn destun cyfweliad a phortffolio.

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Miranda Meilleur (Rhaglen Arweinydd): meille1m@gllm.ac.uk

Sera Williams (Gweinyddiaeth): parry3j@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r asesu ffurfiannol yn cael ei wneud ar ffurf:

  • Tiwtorialau unigol/grŵp
  • Hunanasesu
  • Asesiad gan gyd-fyfyrwyr
  • Trafodaeth feirniadol mewn grŵp

Mae'r asesu crynodol yn cael ei wneud ar ffurf:

  • Portffolio
  • Dyddlyfr Adfyfyriol
  • Blog Adfyfyriol
  • Cyflwyniad
  • Prosiect Sefydlu
  • Llyfr Brasluniau
  • Darn terfynol
  • Ymchwil mewn llyfr brasluniau
  • Gwerthuso
  • Portffolio digidol
  • Cynigion ysgrifenedig
  • Fideo
  • Hunangyhoeddi llyfr

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

O ran dilyniant creadigol a phroffesiynol, gall y cwrs arwain at nifer o ddewisiadau amrywiol. Yn ogystal â gweithio ar eich liwt eich hun fel dylunydd neu artist, mae swyddi i'w cael yn y diwydiannau creadigol: e.e. ym maes hysbysebu, dylunio gwefannau, teledu, ffilmiau, cyhoeddi, darlunio, crefftau cyfoes, animeiddio neu ddylunio cynnyrch. Mae gyrfaoedd posibl eraill yn cynnwys gweithio ym myd addysg, mewn oriel neu amgueddfa, ym myd y theatr neu wneud gwaith sy'n gysylltiedig â gŵyl neu wyliau, gweithio mewn archifdy neu yn y diwydiant argraffu.

Mae paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith yn y sector creadigol yn rhan greiddiol o'r cwrs. Credwn fod Profiad Gwaith Ystyrlon yn wirioneddol werthfawr i'n myfyrwyr, ac mae llawer ohonynt wedi cael Profiad Gwaith sydd wedi bod yn ganolog i'w datblygiad fel artistiaid a dylunwyr. Mae sefydliadau creadigol lleol fel Cwmni Da (cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau Cymraeg) a View Creative (dylunio graffig) wedi cynnig lleoliadau gwaith i'n myfyrwyr yn ogystal â sefydliadau creadigol cenedlaethol a chanddynt arbenigeddau amrywiol.

Mae llawer o'n cyn-fyfyrwyr bellach yn gweithio yn y Diwydiannau Creadigol mewn swyddi fel:

  • Gweinyddu ym maes y Celfyddydau
  • Addysgu
  • Y Celfyddydau ym maes Iechyd
  • Marchnata drwy'r Cyfryngau Cymdeithasol
  • Manwerthu

Yn hunangyflogedig neu'n gweithio ar eu liwt eu hunain ym maes Celf a Dylunio.

Gwybodaeth campws Parc Menai

Disgrifiad cwrs

Mae'r Radd Sylfaen mewn Celf a Dylunio (FdA) yn gwrs Addysg Uwch dwy flynedd sydd yn cynnig y cyfle i ddysgwyr i archwilio ystod eang o egwyddorion ac ymarfer Celf a Dylunio drwy ystod amrywiol o brofiadau dysgu gan gynnwys gweithdai arbenigol, seminarau, tiwtorialau a thripiau astudio.

Yn yr ail flwyddyn mae dysgwyr yn canolbwyntio ar ardal arbenigol o fewn Cyfathrebu Graffig, Celfyddyd Gymwysedig neu Celf Gain. Mae dysgwyr yn datblygu eu sgiliau cysylltiedig yn eu maes arbenigol dewisedig, gan adeiladu portffolio o waith. Mae cwrs yn cael ei redeg gydag ein partner Prifysgol Bangor ac mae dysgwyr llwyddiannus yn graddio gyda FdA wedi ei ddyfarnu gan Brifysgol Bangor.

Nodwedd allweddol o'r cwrs yw'r pwyslais ar Ddyfodol Creadigol, entrepreneuriaeth a lleoliad diwydiannol. Mae hyn yn ceisio atgyfnerthu theori a gwaith ymarferol o fewn cyd-destun ehangach diwydiannau creadigol. Mae cysylltiadau diwydiannol yn rhan bwysig o'r cwrs gyda dysgwyr yn gweithio ar friffiau byr wedi eu cyflwyno gan arbenigwyr mewnamgylchedd dwyieithog, creadigol a chefnogol.

Gwybodaeth uned

Mae Celf a Dylunio yn cwmpasu ystod anferth o arbenigeddau yn amrywio o gerameg i ddylunio gwe, er enghraifft.

Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio ystod eang o gymwysiadau Celf a Dylunio a fydd yn rhoi sgiliau ymarferol i chi o fewn y meysydd eang o Gyfathrebu Gweledol, Dylunio Graffig, Dylunio Cymwysedig a Chelf Gain. Gan weithio gyda staff arbenigol o fewn meysydd pwnc mae myfyrwyr yn datblygu portffolio o waith addas ar gyfer dilyniant o fewn addysg neu ddiwydiant.

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Cyd-destun Celf a Dylunio 1 (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno dysgwyr i natur hanesyddol a diwylliannol Celf a Dylunio drwy raglen o ddarlithoedd sy'n trafod Celfyddyd Gain, Cyfathrebu Gweledol a Chelfyddydau Cymhwysol. Cysylltir gwaith theori a gwaith ymarferol i annog dysgwyr i feddwl am gyd-destun celf drwy ganolbwyntio ar y pynciau a'r gwrthrychau sy'n bwysig mewn Celf a Dylunio Modern. (Cyfnodolyn Myfyriol 15%, Blog Adweithiol 15%, Cyflwyniad 30%, Traethawd 40%)

Iaith Weledol (20 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn, mae myfyrwyr yn edrych ar ddulliau o ymdrin â deunyddiau, prosesau a thechnegau lluniadu arsylwadol mewn Celf a Dylunio. (Blog Adweithiol 10%, Prosiect 10%, Llyfr Braslun 10%, Portffolio 70%)

Celfyddydau Cymhwysol (20 credyd, gorfodol):

Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i ddechrau ar lefel eithaf sylfaenol er mwyn helpu dysgwyr nad oes ganddynt lawer o brofiad o gelfyddydau cymhwysol. Er enghraifft, gweithio gyda cherameg, gwydr a thecstilau. (Cyflwyniad 30%, Darn / darnau terfynol 70%)

Dylunio a Darlunio Graffig (20 credyd, gorfodol):

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno dysgwyr i elfennau hanfodol Dylunio a Darlunio Graffig. Mae hefyd yn cynnwys cyflwyniad i feddalwedd dylunio graffig megis Adobe Photoshop, Illustrator ac InDesign. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau i ddefnyddio'r prif feddalwedd a ddefnyddir gan ddiwydiant. (Llyfr braslunio 10%, Darn (au) terfynol 60%, Tasg ysgrifenedig 20%, Gwerthusiad 10%)

Prosiect Mawr (20 credyd, gorfodol):

Yn y modiwl hwn, mae myfyrwyr yn atgyfnerthu profiadau a gafwyd hyd yn hyn ac yn nodi maes diddordeb arbenigol i ganolbwyntio arno, naill ai mewn Celfyddyd Gain, Celfyddydau Cymhwysol neu Ddylunio Graffig. (Blog adfyfyriol 10%, Llyfr braslunio 30%, Darn(au) terfynol 40%, Cynnig ysgrifenedig 20%)

Y Fideo (10 credyd, gorfodol):

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno dysgwyr i gynhyrchu cyfryngau a fideo wedi'u seilio ar amser. Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i sgiliau hanfodol yn ymwneud â chynllunio fideo, defnyddio meddalwedd golygu fideo, a chipio, golygu a defnyddio effeithiau. (Blog Adweithiol 30%, Fideo 70%)

Ymarfer Proffesiynol 1 (10 credyd, gorfodol):

Yn y modiwl hwn bydd dysgwyr yn cyflwyno portffolio mowntiedig traddodiadol a phortffolio digidol fel ffordd o drefnu, archifo a chyflwyno eu gwaith. (Portffolio 50%, Portffolio wedi'i osod 50%)

Modiwlau Lefel 5 (Blwyddyn 2)

Cyd-destun Celf a Dylunio 2 (20 credyd, gorfodol):

Nod y modiwl hwn yw datblygu ac ymestyn dealltwriaeth y dysgwyr o brif symudiadau Celf a Dylunio a'u heffaith ar ddiwylliant ac ymarfer cyfoes. Bydd y rhaglen ddarlithoedd yn trafod Moderniaeth, Ôl-foderniaeth a themâu cyfoes mewn Celfyddyd Gain, Cyfathrebu Gweledol a Chelfyddydau Cymhwysol. (Cyfnodolyn Myfyriol 15%, Blog Adweithiol 15%, Cyflwyniad 30%, Traethawd 40%)

Ymarfer Arbenigol (20 credyd, gorfodol):

Yn y modiwl hwn, mae myfyrwyr yn nodi maes ar gyfer datblygiad posibl ac ymchwil ymarferol mewn meysydd pwnc fel Celfyddydau Cymhwysol, Dylunio Graffig neu Gelfyddyd Gain, gan gynhyrchu corff o waith o fewn yr arbenigedd hwnnw. (Blog Adfyfyriol 10%, Llyfr Braslun 40%, Portffolio 50%)

Ymarfer Proffesiynol 2 (20 credyd, gorfodol):

Yn y modiwl hwn, astudir nifer o ddulliau gwahanol o ddatblygu portffolios traddodiadol a digidol fel ffordd o drefnu, archifo a chyflwyno gwaith dysgwyr i gynulleidfa benodol. (Portffolio 50%, Portffolio Cefnogol 50%)

Diwydiant Creadigol (20 credyd, gorfodol):

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn ymateb i friff byw neu gystadleuaeth sy'n berthnasol i'w harbenigedd. Nod y modiwl hwn yw creu ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa yn y sector celf a rhoi blas i fyfyrwyr ar fywyd proffesiynol artistiaid a dylunwyr. ((Llyfr braslunio 70%, Cyfnodolyn 30%)

Yr Arddangosfa (40 credyd, Craidd):

Nod y modiwl hwn yw cynyddu natur hunan-gyfeiriedig myfyrwyr sy'n gweithio mewn arbenigedd pwnc. Mae myfyrwyr yn lleoli eu gwaith o fewn maes pwnc arbenigol o'r Celfyddydau Cymhwysol, Cyfathrebu Dylunio neu Gelfyddyd Gain, ac yn datblygu corff o waith sy'n cael ei arddangos i safonau proffesiynol. Y nod yw gwireddu bwriadau creadigol personol o fewn maes arbenigol, atgyfnerthu sgiliau arbenigol ac arddangos y rhain mewn cyd-destun arddangosfa yn hyderus ac yn uchelgeisiol. (Blog Adfyfyriol 10%, Llyfr Braslunio 10%, Cynnig Ysgrifenedig 10%, Arddangosfa Derfynol 70%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

n/a

Sefydliad dyfarnu