EAL EV3/01 Deall Gofynion Gosod Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni, Ty Gwyrddfai
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod hyfforddiant

    50 munud o arholiad ar yr ail ddiwrnod

Gwnewch gais
×

EAL EV3/01 Deall Gofynion Gosod Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

Cyrsiau Byr

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r uned hon yn ymdrin â gofynion gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan (EV) ac yn dilyn Cod Ymarfer yr IET ar gyfer Gosod Offer Gwefru Cerbydau Trydan.

Mae'r uned hon wedi'i hanelu at ddysgwyr/trydanwyr sydd eisoes yn gyfarwydd ag archwilio a phrofi a'r rheoliadau gwifrau.

Gofynion mynediad

1. ⁠GOFYNNOL dyfarniad Rheoliadau Weirio yr IET 18fed Argraffiad (e.e. C&G cyfres 2380 neu EAL 603/3298/0) a

2. GOFYNNOL Lefel 3 Archwilio a Profi (e.e C&G 2391 neu cyfatebol) a

3. GOFYNNOL NVQ L3

Bydd angen i gyfranogwyr gael copi o 'IET Code of Practice for Electric Vehicle Charging Equipment Installation (4th Edition)'

Cyflwyniad

Darlithoedd ac arddangosiad ymarferol o offer Cerbydau Trydan wedi'u gosod a dulliau profi. Mae elfen o hunan astudio.

Asesiad

Arholiad amlddewis llyfr agored

Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn yn arwain at Ddyfarniadau Electrodechnegol Lefel 3 eraill megis Profi Offer Cludadwy, Arolygu a Phrofi Cyfnodol, Ffotofoltäig ac Ynni Trydanol / Systemau Storio Batri.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

Bydd cynnwys dwyieithog yn cael ei ddatblygu.

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith